Mae ansicrwydd o hyd pryd y bydd llawer o blant ysgol Cymru’n dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r Nadolig.
Dywed Llywodraeth Cymru mai’r cynllun o hyd yw ysgolion ailagor fesul cam o’r wythnos nesaf ymlaen gyda’r tymor newydd yn cychwyn ddydd Llun (4 Ionawr).
Y bwriad yw i’r mwyafrif o ysgolion ddarparu dysgu wyneb yn wyneb erbyn 11 Ionawr, gyda dychweliad llawn cyn 18 Ionawr. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai disgwyl i ddisgyblion “ddysgu o bell” yn y cyfamser.
Mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol erbyn hyn fodd bynnag y bydd rhywfaint o ohirio yn anochel i lawer o ysgolion.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cytuno ar drefn hyblyg ar gyfer ysgolion, i’w chytuno rhwng y cynghorau sir a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cyfarfod
Roedd ysgolion Rhondda Cynon Taf i fod i agor ar 6 Ionawr, ond mae hyn wedi’i ohirio tan 11 Ionawr. Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi cyhoeddi hyn.
Dywedodd Sue Walker, cyfarwyddwr addysg cyngor Merthyr Tudful, fod y sefyllfa’n cael ei hadolygu ond y byddai ysgolion ym Merthyr yn ailagor ar 11 Ionawr ac nid Ionawr 6, ac fod hyn eisoes wedi’i gytuno.
Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Sir y Fflint na fydd ysgolion yn ei ardal yn ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb yr wythnos nesaf ac y byddant yn darparu dysgu ar-lein i ddisgyblion.
Yn ôl arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, sydd hefyd yn arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fe fydd y mwyafrif o gynghorau eraill Cymru hefyd yn penderfynu peidio ag ailagor yr wythnos nesaf.
Dywedodd wrth Wales Online: “Cawsom gyfarfod ddoe gyda phob un o’r 22 arweinydd cyngor a chyfarwyddwyr addysg a gyda’r gweinidogion iechyd, llywodraeth leol ac addysg.
“Rwy’n credu bod y rhan fwyaf o awdurdodau addysg lleol yn gwneud yr un peth â Rhondda Cynon Taf o ran yr wythnos nesaf.
“Galwodd y gweinidogion iechyd, addysg a llywodraeth leol gyfarfod pellach ddydd Mercher nesaf i benderfynu ar gynlluniau ar gyfer yr wythnos ganlynol.
“Yn amodol ar drafodaethau yr wythnos nesaf bydd mwy o blant yn dychwelyd o 11 Ionawr.”
Cynghorau eraill
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud mewn datganiad y “disgwylir y bydd holl ysgolion cynradd Gwynedd yn ailagor ar ôl gwyliau’r Nadolig yr wythnos nesaf gydag ysgolion uwchradd Gwynedd symud i fodel dysgu o bell wythnos nesaf ac yn ailagor i ddisgyblion yr wythnos ganlynol.”
Ym Mhowys, ni fydd disgyblion ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn dychwelyd fel y cynlluniwyd.
Mae datganiad gan Gyngor Powys yn nodi: “Ar Ddydd Mercher 6 Ionawr, bydd pob disgybl cynradd a dysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn dychwelyd i’r ysgol fel y cynlluniwyd.
“Ni fydd disgyblion ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn dychwelyd fel y cynlluniwyd ond yn hytrach byddant yn dechrau dysgu cyfunol o 6 Ionawr. Bydd y dysgwyr hyn yn dychwelyd i’r ysgol ar 11 Ionawr oni bai ein bod yn cael ein cynghori’n wahanol rhwng nawr a’r pryd hynny.
“Cytunwyd i ohirio dyddiad dychwelyd y grŵp hwn o ddisgyblion yng ngoleuni’r canllawiau diweddaraf a’r cyfyngiadau haen 4 yng Nghymru.”
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bydd awdurdodau lleol ac ysgolion yn adolygu dyddiadau dechrau tymor arfaethedig a “byddant yn cysylltu â rhieni yn uniongyrchol cyn y tymor”.
‘Angen eglurder’
Mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad cenedlaethol ynghylch pryd y bydd pob ysgol yn ailagor gan fod angen eglurder.
Dywedodd cyfarwyddwr ASCL Cymru, Eithne Hughes, wrth Wales Online:
“Mae’n ddryslyd ac mae angen cydlyniad ar y sefyllfa,” meddai.
“Bydd gan rai ysgolion blant mewn yr wythnos nesaf.
“Mae arnom angen strategaeth ganolog.
“Ein barn ni yw bod angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad canolog am ailagor ysgolion.
“Wedi’r cyfan fe wnaethon nhw benderfyniad i roi’r wlad dan y cyfyngiadau mwyaf difrifol heb unrhyw wahaniaethu rhwng cynghorau ar hynny.”