Mae Prydain a’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno ar y funud olaf ar gynllun i gadw’r ffin rhwng Gibraltar a Sbaen yn agored.

Nid oedd statws ‘y Graig’ yn rhan o’r cytundeb masnach sy’n dod i rym am 11 o’r gloch heno, ac roedd hyn yn arwain at bryderon ynghylch beth fyddai’n digwydd i’r ffin.

Er bod sofraniaeth Gibraltar yn destun anghydfod rhwng Sbaen a Phrydain, fe fydd yn dal i gael ei thrin fel rhan o ardal deithio-rhydd Schengen, meddai gweinidog tramor Sbaen.

Fe fydd manylion pellach ar y cytundeb yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Meddai Ysgrifennydd Tramor Prydain, Dominic Raab:

“Heddiw, wrth weithio law yn llaw â phrif weinidog Gibraltar, ac yn dilyn trafodaethau manwl gyda llywodraeth Sbaen, rydym wedi cytuno ar fframwaith gwleidyddol i ffurfio sail i gytundeb ar wahân rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ynghylch Gibraltar.

“Byddwn yn anfon hwn at y Comisiwn Ewropeaidd, er mwyn cychwyn trafodaethau ar y cytundeb ffurfiol.

“Mae pawb wedi ymrwymo i leihau effeithiau diwedd y cyfnod pontio ar Gibraltar, ac yn enwedig cadw’r ffin yn agored, sy’n amlwg er budd i’r bobl sy’n byw y ddwy ochr.

“Rydym yn gadarn yn ein cefnogaeth i Gibraltar ac mae ei sofraniaeth yn cael ei ddiogelu. Mae gennym hefyd berthynas gynnes a chryf gyda Sbaen, ac edrychwn ymlaen at adeiladu arni yn 2021.”

Yn y refferendwm yn 2016, pleidleisiodd 96% o bobl Gibraltar dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.