Anogaeth i edrych ymlaen mewn gobaith at y Pasg yw neges Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar ddechrau blwyddyn newydd.

“Rydym yn dal i fynd drwy gyfnod tywyll iawn ar ddechrau 2021, ond mae’n rhaid i ni gydio yn y gobaith y byddwn ni’n gweld cymdeithas yn atgyfodi o afael y feirws creulon hwn erbyn y Pasg,” meddai’r Parchedig Jill-Hailey Harries.

“Er y golled a’r dioddefaint, mae tosturi ac aberth anhunanol staff y gwasanaethau iechyd a gofal, a nifer di-ri o wirfoddolwyr, ynghyd â’r brechlynnau newydd, yn destun gobaith – gobaith am ddyfodol gwell, a chred newydd mewn gwydnwch a gallu dynoliaeth.

“Mae natur yn dod â bywyd newydd i’r byd bob gwanwyn, fel y gwnaeth Iesu ar y Pasg Cristnogol cyntaf hwnnw. Rhoddodd yr anrheg fawr o obaith a golau i ni ar yr awr dywyllaf. Wrth i ni fynd drwy’r oriau, y dyddiau a’r wythnosau tywyll presennol, rhaid i ni gadw golwg ar y goleuni pell a fydd yn tyfu’n gryfach wrth i ni symud i mewn i’r gwanwyn a thuag at y Pasg.”