Yn sgil pryder cynyddol am ymwelwyr yn dal i anwybyddu rheoliadau a heidio i’n parciau cenedlaethol, mae awdurdodau’r tri pharc yn apelio’n daer iddyn nhw gadw draw.

Gan rybuddio bod yr ymwelwyr hyn yn rhoi eu hunain a’n “cymunedau gwledig bregus” mewn mwy o berygl, mae’r awdurdodau’n atgoffa’r cyhoedd mai dim ond teithio hanfodol sy’n cael ei ganaiatáu yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Felly, ni all pobl yrru i ymweld ag unrhyw un o Barciau Cenedlaethol Cymru,” meddai’r awdurdodau mewn datganiad ar y cyd.

Ychwanegodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro:

“Mae ein holl ddiogelwch yn dibynnu ar bobl yn parchu’r rheolau ac yn gwneud y peth iawn. Ar hyn o bryd mae hyn yn golygu aros gartref i gadw’n ddiogel. Os na, mae pryder gwirioneddol y bydd ein gwasanaethau iechyd gwledig yn wynebu pwysau cynyddol ac ni fydd mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

“Rydym yn deall y rôl hanfodol y mae ein Parciau Cenedlaethol wedi’i chwarae eleni wrth gefnogi iechyd a lles pobl, a faint mae pobl wedi elwa o fynediad i’r awyr agored. Daw’r amser eto pan allwn i gyd fwynhau harddwch ac amrywiaeth ein Parciau, ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu yn ôl pan fydd yr amser hwnnw’n iawn ac mae’n ddiogel i chi ac yn ddiogel i’n cymunedau.”