Mae clwb pêl-droed Dinas Abertawe yn ymchwilio i ddigwyddiad ar gychwyn gêm neithiwr pan gafodd chwaraewyr eu gwawdio wrth blygu glin i ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch Black Lives Matter.

Dyma’r ail waith i hyn ddigwydd yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Wrth i’r ddwy ochr blygu glin ar gychwyn y gêm yn erbyn Reading, roedd swn uchel cyrn a lleisiau i’w glywed oddi wrth garfan a oedd wedi ymgasglu y tu allan i’r cae. Nid yw’n glir pwy oedd y grwp na beth oedd eu cymhellion.

“Fe wnes i glywed swn ond allwn i ddim dweud beth oedd,” meddai’r Steve Cooper, rheolwr y clwb. “Gadewch inni ddarganfod beth oedd a’r rhesymau drosto.

“O ran plygu glin rydym yn glwb sydd wedi parhau i ymrwymo i wneud hynny.”

Gobaith Abertawe yw na fydd hyn yn digwydd am y trydydd tro wrth iddyn nhw groesawu Watford ddydd Sadwrn.