Mae’r undeb Unsain yn rhybuddio am staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu llethu gan yr argyfwng coronafeirws.

“Mae’r coronafeirws yn rhoi pwysau dychrynllyd ar y Gwasanaeth Iechyd ond mae iechyd a lles staff yn bryder mawr,” meddai ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Unsain, Christina McAnea.

“Mae llawer yn dal wedi ymlâdd o’r don gyntaf ac yn mynd trwy’r un peth eto. Does dim digon o staff ar y gorau, ond maen nhw’n cael eu galw i mewn i gyflenwi mwy a mwy o oriau.

“Mae’n rhaid i gyflogwyr fod yn barod i wario ac edrych ar bob dewis posibl er mwyn osgoi rhoi’r baich ar y rheini sydd eisoes yn gorweithio.

“Fel arall fe fydd staff yn llosgi eu hunain allan, bydd lefelau salwch yn codi a phwysau annioddefol ar y rheini sydd ar ôl gyda phethau’n gwaethygu o hyd.

“Rhaid i’r Llywodraeth ddysgu gwersi bod esgeuluso problemau prinder staff yn achosi difrod anferthol pan mae pethau’n mynd yn ddrwg.”