Mae corff cyhoeddus newydd i amddiffyn hawliau miliynau o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n dal i fyw yn y Deyrnas Unedig a Gibraltar yn cychwyn ar ei waith yn Abertawe heddiw.
O’i bencadlys yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, fe fydd Awdurdod Monitro Annibynnol Cytundebau Hawliau Dinasyddion yn cadw llygad ar gyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal hawliau dinasyddion. Fe fydd yn adolygu cwynion ac fe fydd ganddo bwerau i lansio ymchwiliadau a chymryd camau cyfreithiol.
Meddai Cadeirydd yr Awdurdod newydd, Syr Ashley Fox:
“Wrth i’r cyfnod pontio ddirwyn i ben, mae’r Awdurdod Monitro Annibynnol yn barod i chwarae rhan lawn mewn amddiffyn hawliau dinasyddion sy’n dal i ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig a Gibraltar ar ôl Brexit.
“Ein rôl ni yw helpu dinasyddion i ddeall eu hawliau a rhoi sicrwydd iddyn nhw y bydd y rhain yn cael eu cynnal wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Mae’r Awdurdod Monitro Annibynnol wedi cael ei sefydlu fel corff cyhoeddus o dan nawdd y Weiniyddiaeth Gyfiawnder.
O dan Gytundeb Gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â Gwlad yr Ia, Liechtenstein a Norwy, hawliau tebyg i’r hyn a oedd ganddyn nhw cyn Brexit cyn belled â’u bod yn byw yn y Deyrnas Unedig erbyn 31 Rhagfyr 2020, ac os ydyn nhw’n cofrestru gyda Chynllun Setlo’r Undeb Ewropeaidd erbyn 30 Mehefin 2021.