Mae gwrthbleidiau yn y Senedd wedi datgan pryder fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf hyd yma gyda’i rhaglen brechiadau Covid-19.

“Mae’n newyddion da fod brechlyn Rhydychen wedi cael ei gymeradwyo, ond mae arnom angen sicrwydd rwan gan Lywodraeth Cymru y bydd yn cael ei ddosbarthu’n effeithiol yng Nghymru,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth.

“Rhaid i’r seilwaith iawn fod yn ei le ar gyfer gweithredu cyflym, yn enwedig i’r mwyaf bregus.

“Mae Cymru wedi bod ar ôl pob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig o ran y niferoedd sydd wedi cael eu brechu, a rhaid mynd i’r afael â hyn ar frys.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi amheuon hefyd a yw’r gogledd yn cael cyfran deg o’r brechlynau sydd ar gael yng Nghymru.

Maen nhw’n tynnu sylw at ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 20 Rhagfyr sy’n dangos mai dim ond 2,544 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a oedd wedi cael eu brechu, o gymharu â 4,264 yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, sydd â phoblogaeth lai.

“Mae pobl yng ngogledd Cymru’n pryderu nad ydyn nhw’n cael eu cyfran deg o’r brechlyn,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar Adferiad Covid-19, Darren Millar.

“Mae ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru fel pe baen nhw’n dangos fod pobl yng Nghaerdydd ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o fod wedi cael brechlyn Covid na phobl yn y gogledd.

“Yn dilyn cymeradwyo brechlyn newydd Rhydychen, sy’n cael ei gynhyrchu yng ngogledd Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflymu ei rhaglen brechiadau, sicrhau bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei gyfran deg o ddosiau a bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed o Covid-19 yn cael eu pigiadau cyn gynted â phosibl.”