Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi dweud y bydd disgyblion yn dychwelyd i ysgolion fesul cam ym mis Ionawr ar ôl gwyliau’r Nadolig.
Bydd y tymor newydd yn dechrau ar bedwerydd diwrnod y mis gyda dysgu ar-lein yn parhau i’r rhan fwyaf o ddysgwyr.
Mae disgwyl i ddysgu wyneb yn wyneb ailddechrau ar gyfer y rhan fwyaf erbyn 11 Ionawr… a dychweliad llawn cyn 18 Ionawr.
Dywedodd CLlLC y byddai hyblygrwydd i ysgolion o ran pryd i gael disgyblion yn ôl yn helpu gyda’r ansicrwydd ynghylch effeithiau’r coronafeirws ar lefelau staffio ysgolion.
Ond dywedodd CLlLC mai dysgu wyneb yn wyneb ddylai ddigwydd “oni bai bod rhesymau iechyd a diogelwch clir dros symud i ddysgu o bell”.
Symudodd ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru i ddysgu ar-lein ddydd Llun mewn ymdrech i leihau lefelau trosglwyddo Covid-19.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n flaenorol y bydd yn cyflwyno ‘profion llif unffordd cyflym’ i ysgolion a cholegau pan fyddant yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd.
‘Rhywfaint o sicrwydd’
Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC: “Bydd y cynllun i ddychwelyd i ysgolion ym mis Ionawr yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, tra hefyd yn caniatáu hyblygrwydd i ystyried amgylchiadau lleol.
“Mae ymateb athrawon, staff ysgol, dysgwyr, a rhieni a gofalwyr wedi bod yn rhyfeddol drwy gydol y flwyddyn heriol hon. Nid yw wedi bod yn hawdd, a diolchwn iddynt am eu hamynedd a’u dyfalbarhad parhaus i helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
“Er mwyn helpu i leihau lledaeniad cyflym y feirws, mae’n rhaid i ni i gyd barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein hunain, ein gilydd a’n cymunedau.”
“Lleihau aflonyddwch pellach”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym i gyd yn cydnabod bod hwn yn gyfnod digynsail a bod yn rhaid i ni fod yn hyblyg o ran sut rydym yn ymateb i’r effaith y mae’r feirws yn ei chael ar ein cymunedau.
“Drwy gytuno i ddull hyblyg yn ystod pythefnos cyntaf y tymor ysgol newydd ym mis Ionawr, mae’n galluogi ein hysgolion i roi trefniadau cymesur ar waith sy’n adlewyrchu eu hamgylchiadau penodol ac sy’n cael eu harwain gan ystyriaethau iechyd a diogelwch y cyhoedd.
“Rydyn ni’n gwybod gan ein plant a’n pobl ifanc eu bod nhw’n dysgu orau pan fyddan nhw yn yr ystafell ddosbarth yn derbyn dysgu wyneb yn wyneb, felly mae’n rhaid i unrhyw fesurau rydyn ni’n eu rhoi ar waith geisio lleihau aflonyddwch pellach i’w haddysg.”