Ers 2016, mae criw o wirfoddolwyr wedi gweithio i greu gwefan Meddwl.org, sy’n darparu gwybodaeth am amryw o faterion iechyd meddwl, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r wefan yn blatfform cynhwysol sy’n galluogi pobl i rannu eu profiadau, codi ymwybyddiaeth a lleihau’r stigma.
Yr wythnos hon, daw carreig filltir bwysig i’r sefydliad, wrth iddynt gael eu cydnabod fel elusen gofrestredig – y cyntaf o’r fath yng Nghymru.
Mynd i’r afael a’r broblem
“Y bwriad wrth sefydlu’r wefan nôl yn 2016 oedd ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth, adnoddau a chymorth iechyd meddwl oedd ar gael yn Gymraeg ar y We,” meddai un sefydlwr gwreiddiol y wefan, Manon Elin James sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth.
“Roedd rhywfaint o ddeunydd Cymraeg eisoes ar wefannau gwahanol,” eglurai, “ond roedd y wybodaeth yn bytiog ac ar wasgar.
O ystyried bod siarad a chyfathrebu yn rhan “mor ganolog o therapi a’r broses o wella,” dywedodd ei bod hi’n hanfodol sicrhau’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg.
“Mae trafod eich meddyliau mwyaf tywyll a chymhleth yn ddigon anodd beth bynnag,” meddai, “heb y rhwystr diangen o orfod gwneud hynny yn eich ail iaith.
“Dwi’n meddwl bod llwyddiant y wefan yn dystiolaeth o’r galw am gymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau llai cyffredin
“Mae tuedd weithiau i bobl feddwl am iselder a gorbryder yn unig wrth drafod anhwylderau iechyd meddwl,” eglurai Manon Elin James.
“Mae’n galonogol iawn bod mwy o sôn am y cyflyrau hynny yn ddiweddar, ond mae tipyn o ffordd i fynd o ran codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ynghylch cyflyrau a symptomau llai cyffredin.
Dywedodd bod hynny’n un o gryfderau’r wefan, sy’n trafod amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud ac iechyd meddwl.
“Dwi’n byw gyda dadwireddu,” meddai, “sy’n symptom nad oes llawer o drafod ohono, felly dwi’n deall pa mor rhwystredig yw e pan nad yw eich profiad chi yn cael ei gydnabod.
“Dwi hefyd yn deall gymaint o gysur yw sylweddoli bod pobl eraill yn profi’r un peth ac yn gallu uniaethu’n llwyr gyda gwybodaeth.
“Tydi rhannu a bod yn agored ddim yn hawdd”
Er mai darparu gwybodaeth oedd y bwriad gwreiddiol, daeth yn amlwg yn fuan iawn i’r tîm rheoli fod pobl yn awyddus i rannu eu profiadau hefyd.
Yn eu plith, roedd Arddun Rhiannon o Dinas, ger Caernarfon, sydd bellach yn rhan o’r tîm rheoli.
“Tydi rhannu bod yn agored ddim yn hawdd efo dy deulu a dy ffrindiau,” meddai, “heb sôn am ysgrifennu’n gyhoeddus ar gyfer sylw’r genedl gyfan!
“Nes i yn bersonol gychwyn blog iechyd meddwl ychydig o fisoedd cyn i Meddwl.org gael ei sefydlu, a dwi’n cofio pa mor anodd oedd pwyso’r botwm ‘cyhoeddi’… heb unrhyw syniad o gwbl sut fyddai pobl yn ymateb.
“Dwi’m yn gwybod be ‘swn i’n neud heb Meddwl.org! Mae o ‘di cyfoethogi ‘mywyd i gymaint.
“Ma’n hyder i wedi cynyddu lot, dwi ‘di cyfarfod ffrindiau anhygoel, siarad efo pobl dwi’n eu hedmygu gymaint â chreu cysylltiadau na fyswn i wedi cael gwneud heb fod yn rhan o’r wefan.
“Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd”
“Mae’r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd iawn am amryw o resymau, yn enwedig eleni pan nad yw pobl yn gallu bod gyda’u teuluoedd ac… neu… yn galaru,” meddai Manon Elin James.
“Fy nghyngor i fyddai i beidio cymharu eich Nadolig chi gyda Nadolig pobl eraill.
“Gwnewch beth rydych chi’n gyfforddus yn ei wneud, a chofio ei fod yn hollol iawn i beidio â mwynhau’r Nadolig.
“Os yw trin diwrnod Nadolig fel unrhyw ddiwrnod arferol arall yn haws i chi – gwnewch hynny heb deimlo’n euog.
“Cymrwch bethau un awr ar y tro, a byddwch yn garedig gyda’ch hun.”
“Newid ddim yn dod digon sydyn”
Mae statws newydd Meddwl.org yn amserol iawn.
Mewn dadl yn y Senedd ddoe (dydd Iau 16 Rhagfyr), ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: ‘Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach’, dywedodd Lynne Neagle AoS fod gweithredu ym maes iechyd a lles meddyliol “yn fwy pwysig nag erioed.”
“Lles emosiynol ac iechyd meddwl ein plant a’n pobl ifanc yw un o’r materion pwysicaf, os nad y mater pwysicaf, i ni Senedd i fynd i’r afael ag,” meddai’r AoS dros Dorfaen.
“Mae’n fwy clir nag erioed bod gennym gyfrifoldeb sylfaenol i’w cefnogi i fod yn wydn [ac] i fod yn feddyliol iach…
“Er ein bod yn gweld bod newid yn dechrau digwydd, a bod pobl yn ymrwymedig iawn i wella pethau, mae plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth I ddod o hyd i’r gefnogaeth iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt.
“Dydi’r newid ddim yn digwydd digon cyflym.
“Mae pobl yn cydnabod ei bod hi’n anodd, a bod y pandemig wedi rhoi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ond credwn fod effaith Covid yn golygu bod gwneud cynnydd … yn y maes hwn yn fwy pwysig nag erioed.”