Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf – sy’n gwasanaethu ardaloedd sydd â rhai o’r cyfraddau trosglwyddo coronafeirws uchaf ym Mhrydain – yw’r trydydd bwrdd iechyd yng Nghymru i atal gofal nad yw’n ofal brys yn ei ysbytai.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod pwysau wedi cynyddu ar wasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Soniodd y Bwrdd am gyfradd drosglwyddo sy’n cyfateb i bron i bedwar o bobl yn dal y feirws bob 10 munud.
Merthyr Tudful, bellach, sydd â’r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 newydd o unrhyw ardal awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig gyfan, yn ôl y data diweddaraf, gyda 1,110.6 achos i bob 100,000 o bobl.
Mae hyn i fyny o 593.4 yn yr wythnos flaenorol.
Mae’r bwrdd iechyd yn ymuno â dau arall sydd wedi cael eu gorfodi i atal gofal nad yw’n ofal brys mewn ymateb i ymchwydd yn Covid-19 ledled Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gohirio rhywfaint o lawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a’r holl apwyntiadau wyneb yn wyneb nad ydynt yn hanfodol ym mhob un o’i safleoedd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gohirio’r holl ofal nad yw’n ofal brys.
Straen ar ysbytai
Ddydd Iau, dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf fod diffyg gwelyau am ddim a salwch staff wedi arwain at fwy o straen ar ei ysbytai, gyda chyfraddau trosglwyddo ei ardaloedd cyngor yn yr 20 uchaf ym Mhrydain.
Dywedodd y Bwrdd mewn datganiad: “Ar draws y bwrdd iechyd mae 419 o gleifion Covid-19 [sy’n gysylliedig a Covid-19 ] yn ein hysbytai ac mae ein gwelyau gofal dwys yn agos at eu capasiti ar hyn o bryd. Mae gennym fwy na 50 o gleifion yn ein hysbyty dros dro, Ysbyty’r Seren.
“Mae llawer o’n staff iechyd a gofal cymdeithasol i ffwrdd o’r gwaith gyda Covid-19 ac mae hyn yn dod â heriau ychwanegol wrth ddarparu ein gwasanaethau.
“Am y rheswm hwnnw, ar 16 Rhagfyr penderfynodd Cwm Taf Morgannwg ddechrau atal rhai gwasanaethau ac adleoli staff o’r gwasanaethau hyn i helpu i gynnal gwasanaethau craidd ac argyfwng ar draws y bwrdd iechyd.
“Nid yw’r penderfyniad hwn wedi’i wneud yn ysgafn gan ein bod yn gwybod y bydd yn golygu na fydd pobl yn ein cymunedau’n gallu cael gafael ar rai gwasanaethau GIG lleol a bydd yn rhaid i lawer o gleifion aros yn hirach am apwyntiadau a llawdriniaethau cleifion allanol.
“Fodd bynnag, mae’r cyfraddau trosglwyddo a’r cynnydd cysylltiedig mewn derbyniadau i’r ysbyty yn golygu nad oes dewis os ydym am gadw’n gwasanaethau brys hanfodol yn rhedeg.”
Ymhlith y gwasanaethau sydd wedi’u gohirio mae clinigau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys, llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys, clinigau nyrsio arbenigol, a gwasanaethau diagnostig nad ydynt yn rhai brys.
Bydd gwasanaethau canser brys a chleifion brys o safbwynt clinigol yn parhau i gael eu gweld.”
Sylwadau Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod “mwy o gleifion yn cael eu trin â Covid-19, neu’n gwella o Covid-19, yn ein hysbytai nag erioed o’r blaen.”
“Yn gynharach y mis hwn, nododd y gweinidog iechyd amrywiaeth o fesurau y gallai byrddau iechyd eu cymryd i leddfu’r pwysau ar wasanaethau a chadw cleifion yn ddiogel,” meddai.
“Mae hyn yn cynnwys rhoi’r gorau i weithdrefnau nad ydynt yn rhai brys. Mater i fyrddau iechyd yw penderfynu ar y mesurau mwyaf priodol.
“Gallwn i gyd helpu i leddfu’r pwysau ar ein GIG drwy atal y feirws rhag lledaenu. Bydd sut rydyn ni i gyd yn gweithredu – a’r dewisiadau rydyn ni i gyd yn eu gwneud dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf – yn diffinio cwrs y feirws hwn.”