Mae un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o waith teledu.
Mae 50 mlynedd ers i Dai Jones gamu i fywyd cyhoeddus trwy ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970, ond ar ôl cyfnod hir o salwch mae’r ffermwr poblogaidd o Lanilar wedi penderfynu rhoi’r gorau i gyflwyno.
Ers 1983, Dai Llanilar sydd wedi bod yn cyflwyno Cefn Gwlad, ac yn ystod ei yrfa bu hefyd yn cyflwyno o raglennu Siôn a Siân, Noson Lawen, Rasus, Ar eich Cais, a’r Sioe Fawr.
‘Agor cil y drws ar holl gyfoeth cefn gwlad Cymru’
“Hoffwn i ddiolch i bawb am fy nghroesawu i’w cartrefi a’u bywydau dros y blynyddoedd.” meddai.
“Ers hanner canrif dw i wedi cael y fraint o agor cil y drws ar holl gyfoeth cefn gwlad Cymru – yn gymeriadau, cymunedau, heb anghofio stoc o’r safon uchaf. Dwi ’di cael modd i fyw ac yn ystyried fy hun yn ddyn lwcus iawn fod wedi gallu gwneud hynny gyhyd.
“Ond, o’r diwedd, mae’r amser wedi dod i roi’r twls ar y bar. Millionaire yw person gyda iechyd, ac mae hwnna’n fwy gwir i ni gyd nawr nag erioed.
“Cofiwch fel dw i wedi dweud sawl tro – yr ifanc ydi dyfodol Cefn Gwlad. A dwi’n gobeithio y cawn nhw’r un cyfleoedd nawr, ac y ges i pan ddechreues i ar fy antur fawr.
“Diolch i bawb am rannu’r daith gyda mi – diolch am yr hwyl, y croeso a’r llawenydd – mae wedi bod yn falm i’r enaid, a’r atgofion yn rhai fyddai’n trysori am byth.”
Gallwch wylio Dai ar ei orau yn straffaglu i ddysgu sgio – yn cael hwyl er nad yw’n cael hwyl arni – yn uchafbwyntiau ‘Dai Jones ar y Piste’ isod.
Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen fydd yn cyflwyno Cefn Gwlad o hyn allan gyda Rhys Lewis, Meleri Williams a Ioan Doyle hefyd yn parhau rhan o’r criw.
Dathlu Dai
Bydd S4C yn talu teyrnged iddo mewn rhaglen arbennig ‘Dathlu Dai’.
Yn ogystal â rhannu clasuron o’r archif, bydd cyfeillion a chydweithwyr yn rhannu rhai o’u hoff straeon ac atgofion am y cymeriad lliwgar sy’n llwyddo i roi gwen ar wynebau pawb sy’n ei gyfarfod.
“Hud a lledrith Dai yw be chi’n gweld yw be chi’n cael – ar y sgrîn ac oddi ar y sgrîn.” meddai’r gyflwynwraig Elinor Jones sydd wedi gweithio ochr yn ochr â Dai ar sawl achlysur.
“Dai yw cefen gwlad, a cefen gwlad yw Dai. Does dim amheuaeth mai fe yw’r ased mwya’ i S4C ei gael erioed.”
Eglurodd y cyflwynydd Ifan Jones Evans fod Dai Jones bob amser yn barod ei gyngor.
“Ro’dd hi’n fraint enfawr i fi gael y cyfle i gyflwyno gyda Dai, roedd yn rhywun ro’n i wedi ei wylio pan yn blentyn ar Cefn Gwlad,” meddai.
“Dwi’n cofio’r rhaglen gyntaf o ‘Tir Prince’ a holi Dai rhyw gwarter awr cyn i ni fynd yn fyw ar yr awyr. Oes unrhyw gyngor gyda chi i fi Dai?”
“Cofia newid dy bans ar ôl i ti ddod off yr awyr!”
Bydd y raglen arbennig i’w gweld ar S4C ar Ionawr 1 am 8.00 yr hwyr