Mae cerdd newydd gan y prif fardd Ifor ap Glyn yn cofnodi’r heriau y mae busnesau yng Nghymru wedi’u hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a’r gwaith caled a wnaed gan staff i gefnogi a helpu mentrau i addasu er mwyn gweithredu yn ystod y pandemig.

Comisiynwyd y gerdd – ‘Yr Awen Fusnes’ – gan gwmni Menter a Busnes er mwyn cofnodi’r argyfwng cenedlaethol ac ymdrechion i helpu busnesau Cymru i oresgyn ar ffurf cerdd ar gyfer y dyfodol.

Eglurodd Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes fod cynnydd wedi bod yn nifer y busnesau sydd yn chwilio am gyngor yn ystod y pandemig.

“Mae Covid-19 wedi golygu ein bod ni, fel llawer o gwmnïau ledled Cymru, wedi gorfod addasu er mwyn gallu helpu ein cleientiaid yn ystod yr amser hwn,” meddai.

“Mae Ifor ap Glyn wedi llwyddo i gyfleu’r heriau rydyn ni wedi’u hwynebu fel cwmni yn y gerdd Yr Awen Fusnes.

“Mae bellach yn gofnod o sut y gwnaethom ni ymateb yn ystod y cyfnod digynsail yma.”

‘Dathlu entrepreneuriaeth Cymru’

Diolchodd Ifor ap Glyn am gefnogaeth Menter y Busnes ac am y cyfle i lunio’r gerdd.

“Mae bob amser yn bleser dathlu entrepreneuriaeth Cymru,” meddai.

“Mae ei angen arnom nawr yn fwy nag erioed, yn lleol ac yn genedlaethol.

“Diolch i chi, Menter a Busnes am eich holl anogaeth a chymorth i’r perwyl hwnnw!”

Yr Awen Fusnes

 

Canmolwn yn awr yr awen fusnes,

y llais sydd heb eto fagu eco,

y gân fawr sydd dal ym mrest aderyn bach.

 

A defnyddiwn ddyddiau’r dwymyn

i fyfyrio’r ail-gychwyn,

i fapio’r posibiliadau,

mynychu gweminarau,

cael ein mentora,

rhag i’r busnes newydd fynd yn rhacabobus,

rhag i’r hwch ddod ar gyfyl y siop.

 

Canys gweddw pob cychwyn

heb gymorth yn gefen…

 

ond ‘ceisiwch, a chwi a gewch’,

a dyna’n wir a gawn,

o ben arall y ffôn

neu hyd bys bant, ar y we;

dyma’r allwedd i lwyddo’n lleol.

 

Ac wrth hogi sgiliau

a meithrin cysylltiadau

cawn gywain profiadau newydd

i’r hen sguboriau;

mae’r awen fusnes fel arwain cân newydd

gydag eco soniarus yn dilyn ein llais.

 

Ifor ap Glyn