Y Gymraeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig ar yr ap Duolingo.
Mae nifer y bobol sy’n dysgu Cymraeg wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig.
Yn ôl Adroddiad Iaith Duolingo 2020, roedd cynnydd o 44% yn nifer y dysgwyr Cymraeg newydd ar yr ap eleni.
Mae cyfanswm o 1.5 miliwn o bobol wedi bod yn dysgu Cymraeg ar Duolingo – mwy na sy’n dysgu Ffrangeg ar yr ap.
“Mae dysgwyr Cymraeg hefyd ymhlith y dysgwyr sy’n cymryd dysgu fwyaf o ddifri,” meddai’r adroddiad.
“Mae’r newid i lawr i bobol sydd eisiau dysgu Cymraeg i gysylltu â’r wlad a gweld y Gymraeg yn ffynnu fel iaith.
“Addysg sy’n gyrru hyn yn rhannol, gyda 23% yn dewis yr ysgol fel eu prif gymhelliant – ond mae hefyd yn llawer ehangach na hynny.
“Mae llawer o bobol nawr eisiau dysgu am fod ganddyn nhw ddiddordeb yn niwylliant a threftadaeth Cymru ac eisiau hyfforddi’r ymennydd, fel merch yn ei harddegau o Rwsia a welodd yr enw Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch a penderfynu dysgu Cymraeg am iddi syrthio mewn cariad ag ef.”
‘Deniadol, diddorol a dirgel’
Eglurodd Anastasia Lisitsyna o Rwsia fod “rhywbeth deniadol yn enw’r pentref.”
“Meddyliais fod yr enw’n hyfryd ac yn wirioneddol ddiddorol,” meddai wrth gylchgrawn golwg.
“Roedd rhywbeth deniadol yn enw’r pentref, felly, roeddwn i eisiau medru dweud yr enw. Ac (wrth gwrs) meddyliais i y byddai hi’n hwyl i allu ynganu unrhyw beth mor galed ac anarferol.
“Rydw i’n defnyddio cyrsiau Duolingo a Teach Yourself Welsh, ac yn ymarfer siarad ar gwrs ar-lein gyda ‘Dysgu Cymraeg Sir Benfro’.
“Dw i am fynd i Gymru un diwrnod. Ond does dim syniad gen i pryd byddaf i’n gallu mynd. Os ga i freuddwydio am fy nhaith ddelfrydol, byddwn i’n dechrau yn Llanfairpwll cyn ymweld â Sir Benfro a Chaerdydd.”
Yn ôl yr adroddiad technoleg, mae diwylliant a hygyrchedd wedi arwain at fwy o bobol yn dysgu ystod ehangach o ieithoedd, ac mae’r ferch 16 oed yn un o nifer o bobol o du hwnt i Gymru sydd yn ymddiddori yn y Gymraeg o ganlyniad i hynny.
Darllen mwy