Mae cyflwyno Bil y Farchnad Fewnol wedi cael “effaith niweidiol” ar ddatblygiad ‘fframweithiau cyffredin’, yn ôl un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi.

Ar hyn o bryd mae sefydliadau’r llywodraethau datganoledig (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn gorfod cydymffurfio â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Ond pan fydd y cyfnod pontio yn dod i ben bydd rhai pwerau yn dychwelyd i’r llywodraethau, ac mae hynny’n peri problem – sef y posibiliad o wahaniaeth polisi oddi fewn i’r Deyrnas Unedig.

Felly mae Llywodraeth San Steffan wrthi’n ceisio cyflwyno ‘fframwaith cyffredin’ a fydd yn cymryd lle’r drefn mae rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn ei gynnal ar hyn o bryd.

Ochr yn ochr â’r cynllun yma mae’r Llywodraeth yn ceisio pasio ‘Bil y Farchnad Fewnol’ ac mae Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi yn gofidio bod hyn wedi achosi oedi.

Hanfod eu dadl yw nad oes digon o amser wedi bod i graffu ar gynlluniau’r fframweithiau.

Arglwyddi anfodlon

“Rydym ni’n credu bod y fframweithiau cyffredin yn rhaglen bwysig o waith ac maen nhw’n dangos gallu’r pedair llywodraeth i weithio â’i gilydd yn effeithiol dros ystod o feysydd polisi,” meddai’r pwyllgor.

“Proses arloesol yw hyn sydd yn galluogi i farchnad fewnol y Deyrnas Unedig weithio, gan ddod â’r pedair llywodraeth ynghyd at nod gyffredin – ac i ddarparu sicrwydd i fusnesau wrth reoli gwahaniaethau posib.

“Fodd bynnag, mae’r gweinyddiaethau yn rhan hanfodol o’r broses, a rhaid rhoi cyfle iddyn nhw graffu’n effeithlon ar gynlluniau polisi’r Deyrnas Unedig yn y meysydd yma ar ddiwedd y cyfnod pontio.

Y Bil yn cymhlethu pethau

Yn wahanol i Fil y Farchnad Fewnol, sydd wedi’i wrthwynebu’n chwyrn gan y llywodraethau datganoledig, mae tipyn o gydweld wedi bod ynghylch mater y ‘fframweithiau cyffredin’.

Ym mis Hydref 2017, fe wnaeth Llywodraeth San Steffan a’r llywodraethau datganoledig gytuno ar egwyddorion a fyddai’n sail i’r fframwaith.

Roedd y rheiny’n cynnwys “sicrhau bod marchnad fewnol y Deyrnas Unedig yn gweithio” a “rheoli adnoddau cyffredin”.

Mae cryn dipyn o waith wedi’i gyflawni y tu ôl y llenni – gan weision sifil yn bennaf – ac mae llu o gyfarfodydd wedi’u cynnal ar y mater (gyda chynrychiolwyr o’r pedair llywodraeth yn cymryd rhan).

Heb os, mae Bil y Farchnad Fewnol wedi cymhlethu pethau, ac mae Ysgrifennydd Economi’r Alban, Fiona Hislop, wedi dweud y bydd y mesur yn “tanseilio’r camau calonogol â’r fframweithiau cyffredin.”

Brexit hyd yma

Pleidleisiodd y Deyrnas Unedig o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, a bu iddi adael yr undeb ar Ionawr 31, 2020.

Dros yr 11 mis diwetha’ mae rheolau Ewropeaidd wedi parhau i fod mewn grym ym Mhrydain wrth i’r ddwy ochr geisio dod i gytundeb ynghylch trefniadau masnach y dyfodol.

Y cyfnod pontio yw enw’r cyfnod yma, ac mae disgwyl y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael heb gytundeb pe na fyddai dêl yn cael ei tharo cyn Rhagfyr 31, 2020.