Mae Llywodraeth Cymru yn bygwth gweithredu’n gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb i fesur Brexit dadleuol.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dadlau bod angen pasio’r Bil y Farchnad Fewnol er mwyn sicrhau masnach lefn ym Mhrydain pan fydd rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.

Ond mae gweinidogion yng Nghymru a’r Alban, a sawl llais blaenllaw yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn gofidio mai ymgais yw hyn i gipio pwerau’r oddi wrthynt, ac mae yna wrthwynebiad mawr tuag ato.

Mae seneddau Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, oll wedi gwrthod rhoi cydsyniad i’r Bil, ac mae yna bryderon yn awr y bydd Llywodraeth San Steffan yn bwrw ati â’r Bil ta beth.

Ddoe, cyhoeddodd gweinidogion Llywodraeth y DU welliannau newydd i Fil Marchnad Fewnol a fydd, medden nhw, yn diogelu pwerau datganoledig.

Ond serch hynny, heddiw, mae Jeremy Miles, Gweinidog Pontio Ewropeaidd Cymru, wedi dweud bod gwrthwynebiad y Senedd yn “gwbl gyfiawn” ac mae wedi galw’r Bil yn “ymosodiad cwbl gywilyddus”.

“O ganlyniad rydym wedi rhoi gwybod i Lywodraeth y DU y byddaf yn mynnu declarasiwn gan y Llys Gweinyddol – os bydd senedd y DU yn ceisio deddfu’r Bil ar ei ffurf bresennol,” meddai.

“Rydym wedi gofyn am ymateb oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig o fewn pythefnos,” meddai wedyn. “Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau i Aelodau [o’r Senedd].”

Trafodaethau Brexit

Daw hyn wedi iddo gyfleu pryderon am y trafodaethau Brexit diweddaraf.

Mae’r ddwy ochr yn parhau a’u hymdrechion i daro dêl masnach, a gyda’r cyfnod pontio yn prysur ddod i ben, mae lawer yn teimlo y dylid fod wedi taro’r ddêl yn barod.

Mae Jeremy Miles ymhlith y bobol rheiny, ac yn siarad gerbron y Senedd brynhawn ddoe mi alwodd y sefyllfa yn “gwbl annerbyniol”.

“Heddiw, dw i’n galw unwaith eto ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ddangos yr hyblygrwydd a’r cyfaddawdu sydd eu hangen er myn dod i gytundeb,” meddai.

Brexit hyd yma

Pleidleisiodd y Deyrnas Unedig o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, a bu iddi adael yr undeb ar Ionawr 31, 2020.

Dros yr 11 mis diwetha’ mae rheolau Ewropeaidd wedi parhau i fod mewn grym ym Mhrydain wrth i’r ddwy ochr geisio dod i gytundeb ynghylch trefniadau masnach y dyfodol.

Y cyfnod pontio yw enw’r cyfnod yma, ac mae disgwyl y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael heb gytundeb pe na fyddai dêl yn cael ei tharo erbyn Rhagfyr 31, 2020.