Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i adeiladu Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yng Nghaerdydd, a hynny er gwrthwynebiad chwyrn i’r cynllun.
Y bwriad yw symud yr amgueddfa o Aldershot yn Surrey i Barc Britannia, ger yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.
Mae’r ymddiriedolaeth sy’n rhedeg yr amgueddfa yn dweud y byddai’r amgueddfa yn “atyniad ymwelwyr o’r radd flaenaf” i Gaerdydd.
Fodd bynnag mae pobol leol, amgylcheddwyr, a phobol o’r celfyddydau gan gynnwys Cian Ciaran, Gwenno a Beti George wedi gwrthwynebu’r cynllun.
Mae llythyr sydd wedi ei lofnodi ganddynt a Chyfeillion Parc Britannia yn nodi mai Parc Britannia yw’r unig fan gwyrdd agored ym Mae Caerdydd – un o’r prif resymau pam y cafodd y parc ei ddiogelu’n flaenorol, a’i brynu gan y cyngor.
Hefyd, mae mwy na 4,500 o bobol bellach wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio ddydd Mercher, Rhagfyr 16.
Pleidleisiodd pwyllgor o chwech i dri o blaid y cais, gydag un aelod yn ymatal, a dau’n absennol.
Pleidleisiodd dau aelod o’r grŵp Llafur sy’n rheoli’r Cyngor yn erbyn y cynnig, ynghyd â Keith Parry o Blaid y Genedl Gymreig. Ymataliodd cynghorydd Llafur arall.
Ond roedd cadeirydd y pwyllgor Keith Jones a dau gyd-gynghorydd Llafur yn cefnogi’r cynnig ynghyd â thri aelod Ceidwadol.
Mae cryn drafod am hyfywedd yr amgueddfa, ond dywedodd Jon Hurley, a oedd yn cynrychioli’r amgueddfa, wrth gynghorwyr fod ei gais “yn gyfle penodol i ddarparu atyniad o’r radd flaenaf a fydd yn gwella Bae Caerdydd fel cyrchfan ymwelwyr a diwylliannol.”
Cyfeiriodd hefyd at doiledau cyhoeddus am ddim fel mantais.
‘Anwybyddu’
Ond yn ôl Huw Williams, a helpodd i drefnu’r llythyr yn gwrthwynebu, does dim croeso i’r prosiect hwn yng Nghaerdydd.
“Maen nhw wedi anwybyddu yn llwyr yr effaith ddinistriol bydd hyn yn ei gael ar y tir agored gwyrdd fydd nawr dan gysgod yr adeilad anferth yma,” meddai wrth golwg360.
“Tir y cyngor yw hwn yn y pen draw a does dim un rheswm pam bod y cynlluniau yma wedi cyrraedd y pwyllgor heddiw, mae yna gymaint o wrthwynebiad wedi bod byddai arweinwyr y cyngor, Huw Thomas a Russell Goodway, wedi gallu atal y broses – ac mae dal modd iddyn nhw wneud hynny.”
Prynwyd y tir gan y Cyngor er mwyn rhwystro datblygwyr adeiladu fflatiau yn 2018.
“Roedd pawb yn meddwl ar y pryd mai gwarchod y parc oedd bwriad y cyngor, ond mae’n amlwg fod hynny bellach ddim yn wir.
“Mae pawb, o drigolion pryderus lleol, i gymuned ehangach Caerdydd, a Chymru gyfan, yn siomedig bod Cyngor Caerdydd am fwrw ymlaen â hyn.”
Cyn cael ei dderbyn gan Gaerdydd cafodd y prosiect ei wrthod gan nifer o ddinasoedd eraill ac mae Nirushan Sudarsan ac Elbashir Idriss, o’r grŵp Butetown Matters, wedi dweud fod yr amgueddfa wedi ei “daflu” ar yr ardal.
“Mae cymunedau lleol yn colli eu mannau hanfodol heb ymgynghori a thrafod priodol,” meddai’r ddau ar ran y grŵp.
Ychwanegodd yr amgueddfa nad oeddynt yn bwriadu canolbwyntio ar yr ymerodraeth Brydeinig yn unig a’i bod eisoes wedi meithrin perthynas agos gyda Race Council Cymru i sicrhau fod yr amgueddfa yn clywed barn y gymuned leol.