Mae datganiad ar y cyd rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar fin cael ei gyhoeddi.

Mae disgwyl iddo gadarnhau na fydd newid i’r trefniadau gwreiddiol i lacio cyfyngiadau coronafeirws dros gyfnod y Nadolig.

Deellir bod cytundeb cyffredinol i beidio newid y rheolau cyfreithiol, gyda geiriad terfynol yn dal yn destun trafod.

Serch hynny, mae’n debyg y caiff cyngor llawer mwy cadarn ei gyhoeddi a fydd yn annog pobl i fod yn ofalus dros gyfnod y Nadolig.

Trafod

Fe ddaeth y cyfarfod rhwng Gweinidog Cabinet y Deyrnas Unedig, Michael Gove, ac arweinwyr y tair gwlad ddatganoledig i ben ychydig dros awr yn ôl.

Er na fydd newid o ran llacio’r cyfyngiadau, mae disgwyl neges gryfach ar i bobl fod yn hynod ofalus.

Fe ddaeth i’r amlwg cyn cychwyn y cyfarfod y bore yma fod Llywodraeth San Steffan eisoes wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr dros y Nadolig – beth bynnag fydd barn y tair gwlad arall.

Roedd y cytundeb rhwng y pedair gwlad yn golygu y bydd y cyfyngiadau teithio yn cael ei llacio ar draws y pedair gwlad a gall aelodau o hyd at dair aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen rhwng Rhagfyr 23-27.

Roedd hyn er bod dau gylchgrawn meddygol wedi rhybuddio y bydd llacio’r cyfyngiadau fel hyn yn “costio llawer o fywydau”.

Er hyn roedd un o ffynonellau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod y gallai’r pedair gwlad gymryd camau gwahanol.

Dewis hynod o anodd’

Disgrifiodd y Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y dewis fel un “hynod o anodd”.

“Mae pobol sy’n byw’n gyfan gwbl ar eu pennau eu hunain, sydd wedi gwneud trefniadau i fod gyda phobol am y tro cyntaf, yn dweud wrthyf mai dyma’r unig beth y maen nhw wedi gallu edrych ymlaen ac iddo yn yr wythnosau diwethaf,” meddai.

“Ac eto, rydym yn gwybod, os nad yw pobol yn defnyddio’r rhyddid ychwanegol sydd ar gael yn gyfrifol, yna byddwn yn gweld effaith hynny ar ein gwasanaeth iechyd sydd eisoes dan bwysau.

Mae’r gyfradd heintio ledled Cymru bellach yn 416.5 i bob 100,000 o bobol.

Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi awgrymu bydd rhaid gwneud newidiadau i fynd i’r afael â chynnydd mewn heintiau ac y gallai dorri’r cytundeb pedair gwlad.

Dywedodd wrth Senedd yr Alban: “Rwy’n credu bod achos i ni ystyried a ydym yn tynhau’r cyfyngiadau ymhellach, o ran pa mor hir a faint o bobol fydd yn cael cyfarfod.”

‘Ai dyma’r dewis iawn i’n teulu ni?’

Mae uwch weinidog yn San Steffan, yr Ysgrifennydd Cymunedau Robert Jenrick, wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau.

Dywedodd mai “dewis personol” oedd hi i gwrdd ag aelodau o’r teulu dros gyfnod yr ŵyl.

“Rhaid i bob un ohonom ddefnyddio ein barn bersonol ein hunain gan feddwl am ein teuluoedd ein hunain p’un a oes gennym berthnasau arbennig o oedrannus neu bregys,” meddai wrth Sky News.

“Mae ein safbwynt yn glir y bydd y fframwaith cyfreithiol yn parhau ond oherwydd bod yr haint yn codi mewn sawl rhan o’r wlad mae’n ddyletswydd ar bob teulu ar draws y wlad y bore yma ac yn y dyddiau i ddod i gael y sgwrs honno, ‘A’i dyma’r dewis iawn i’n teulu ni?'”

Hunanynysu cyn y Nadolig

Mae rhai awdurdodau lleol eisoes wedi gofyn i bobol hunanynysu er mwyn diogelu eu teuluoedd erbyn y Nadolig.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin gofyn i bobol wneud rhagor i ddiogelu eu hunain, i leddfu’r pwysau sydd ar y gwasanaethau iechyd ac atal y posibilrwydd o ledaenu’r feirws i’w teuluoedd dros y Nadolig.

“Rydym ni am fod pawb yn gallu mwynhau’r Nadolig, ond mae’r cynnydd mawr mewn achosion yn Sir Gâr ar hyn o bryd yn golygu ei bod hi’n anochel y bydd rhai pobol yn hunanynysu dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, neu’n waeth byth, yn dioddef o Covid-19,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole.

“Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn – rydym mor bryderus fel ein bod ni’n gofyn i bobol, yn y cyfnod hwn cyn y Nadolig pryd mae’r feirws yn lledaenu mor gyflym yn Sir Gâr, ystyried hunanynysu i ddiogelu eu hunain a’u teuluoedd.

“Peidiwch â gwahodd pobol i’ch cartref, peidiwch â chymysgu ag eraill – cadwch eich hunan i’ch hunan cymaint ag y gallwch, a gwnewch bopeth gallwch chi er mwyn cael Nadolig diogel.”