Mae cwmni cludo nwyddau Mansel Davies wedi derbyn trwydded newydd.
Canfu’r ymchwiliad fod Mansel Davies & Son Ltd yn gwybod eu bod yn “gweithredu cerbydau anniogel”, gydag un cyfarwyddwr yn “gorchymyn aelod iau o staff i ffugio dogfennau i geisio celu hyn”.
Yn ôl yr adroddiad roedd Cwmni Mansel Davies haeddu yn colli ei drwydded ac yn ‘haeddu mynd allan o fusnes’.
Llythyr
Fodd bynnag mae cyfarwyddwyr Mansel Davies & Son Ltd wedi rhoi gwybod i’w gweithlu o dros 300 bod eu swyddi’n saff ar ôl cael trwydded newydd i redeg y busnes o dan enw newydd.
“Mae’r Comisiynydd Traffig wedi cytuno’n garedig i ni roi gwybod i chi am y trefniadau ar gyfer y dyfodol i barhau â’r busnes,” meddai’r llythyr at weithwyr y cwmni.
Roedd disgwyl i drwydded Mansel Davies & Son Ltd gael ei dirymu’n swyddogol ar Chwefror 1, 2021.
“Ers i’r gwrandawiad ddod i ben, mae’r cyfarwyddwyr wedi bod mewn trafodaethau pellach gyda’r comisiynydd, sydd wedi cadarnhau y bydd trwydded newydd yn cael ei rhoi.
“Mae hyn yn golygu y bydd pob gweithiwr yn cadw ei swyddi a bydd pob contract yn parhau i gael ei wasanaethu. Bydd eich cyflogaeth yn cael ei throsglwyddo i MDS Distribution o dan yr un telerau â’ch cyflogaeth bresennol gyda Mansel Davies a Son Limited.”