Mae canolfan frechu yng Nghaerdydd wedi gohirio brechiadau tan yfory, dydd Iau, ar ôl i staff yno brofi’n bositif am Covid-19 ychydig ddyddiau wedi i’r ganolfan agor.

Er nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cadarnhau pa ganolfan effeithiwyd arni, mae adroddiadau bod naw aelod o staff wedi profi’n bositif mewn canolfan frechu yn ardal Sblot.

Mae gofyn i unrhyw un a nodwyd fel cyswllt agos hunanynysu.

Daw hyn wedi i safleoedd profi newydd agor o amgylch y brifddinas oherwydd cynnydd mewn achosion Covid-19.

“Gallwn gadarnhau bod nifer o staff wedi profi’n bositif yn un o’n Canolfannau Brechu Torfol,” meddai’r bwrdd iechyd.

“Rydym yn profi staff yn y ganolfan a gofynnir i unrhyw un a nodir fel cyswllt agos hunanynysu.

“Ar hyn o bryd, does dim risg ychwanegol wedi’i nodi i unrhyw un sydd wedi cael ei frechu yn y ganolfan.”

Mae 6,000 o achosion wedi’u cadarnhau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a  ydd safleoedd profion lleol ychwanegol yn agor yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos.

‘Staff yn cael eu gwthio i’r eithaf.”

Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Huw Thomas y dylai trigolion archebu prawf os ydyn nhw’n teimlo’n sâl neu’n arddangos unrhyw un o’r symptomau o’r feirws.

“Rwyf am fod yn glir bod digon o gapasiti yn y system, ac ni fu erioed yn haws cael prawf,” meddai.

“Mae’r cynnydd yn y niferoedd yn llwm. Os na fyddwn yn dilyn y rheolau, gallai ein Gwasanaeth Iechyd a’n gwasanaethau fod dan straen sylweddol erbyn y Nadolig.

“Mae adnoddau ysbytai yn cael eu hymestyn a staff yn cael eu gwthio i’r eithaf.”

Ychwanegodd fod 278 o staff meddygol a nyrsio yn y brifddinas methu gweithio ar hyn o bryd am eu bod yn hunanynysu.