Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei gweledigaeth i greu sector amaethyddol cynaliadwy dros y 15 i 20 mlynedd nesaf

Mae’r ‘Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth yng Nghymru’ yn nodi cyfres o gynigion fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil Amaethyddiaeth  yn nhymor nesa’r Senedd.

Ei nod yw cynnal safonau uchel Cymru ym meysydd bwyd, lles anifeiliaid a’r amgylchedd a’u seilio ar fframwaith symlach o reoliadau a threfn orfodi well.

Fodd bynnag mae rhai wedi beirniadu’r cynlluniau am beidio cynnig digon o sicrwydd a chefnogaeth i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

‘System gan Gymru i Gymru’

Wrth lansio’r Papur Gwyn, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig fod gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddatblygu system o gymorth i ffermwyr fydd yn arbennig i Gymru.

“Rydym wedi ymgynghori a thrafod yn eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’r Papur Gwyn hwn yn gosod allan ein gweledigaeth tymor hir i roi hyn ar waith a chyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol.

“Rydym am gefnogi ffermwyr Cymru i ffynnu, cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chyfrannu at ddelio ag argyfwng yr hinsawdd.

“Mae aruthredd y problemau sy’n ein hwynebu yn golygu bod rhaid cymryd camau pendant nawr er mwyn sicrhau y gall cymunedau gwledig barhau i elwa ar ein cefnogaeth am flynyddoedd i ddod.

“Rydym yn glir ynghylch cynnal ein safonau diogelwch bwyd, lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel yng Nghymru.

“Rwyf am i ffermwyr weld ein cynigion fel cyfle yn hytrach na rhywbeth fydd yn cyfyngu ar eu ‘rhyddid i ffermio’.”

Mae Lesley Griffiths hefyd yn awyddus i gadw’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) tan 2022, cyn belled â bod cyllid ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

‘Neidio oddi ar glogwyn’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Llyr Gruffydd wedi beirniadu’r cynlluniau.

“Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio’n gyson, heb ryw fath o daliad sefydlogrwydd, y gofynnir i’n ffermydd teuluol neidio oddi ar glogwyn heb rwyd ddiogelwch,” meddai.

“Er nad ydym o reidrwydd yn cytuno â’r model taliad sylfaenol presennol, dylai cadw o leiaf elfen o incwm sylfaenol fod yn rhan o’r cynigion hyn.

“Mae’n siomedig felly bod Llafur yn dilyn cynigion dadleuol y Torïaid yn Lloegr drwy gael gwared ar gefnogaeth o’r fath i ffermwyr Cymru.

“Yn y cyfamser, bydd ffermwyr yn yr Alban a ledled yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i gael cymorth uniongyrchol.”

Eglurodd Llyr Gruffydd mai diogelu ffermydd teuluol yw nod Plaid Cymru.

“Mae rhoi mwy o bwyslais ar ddarparu nwyddau cyhoeddus fel datgarboneiddio a bioamrywiaeth yn rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi, ond mae angen ei wneud mewn ffordd sy’n diogelu ffermydd teuluol hynny sydd eu hangen i ddarparu’r nwyddau a’r canlyniadau rydym i gyd am eu gweld.”

Bydd cyfnod ymgynghori ‘Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth yng Nghymru’ ar agor tan Mawrth 25, 2021.