Mae arbenigwyr wedi rhybuddio bydd y misoedd nesaf yn wlypach nag arfer ac y gall hyn arwain at lifogydd.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Asiantaeth yr Amgylchedd, John Curtin, fod timau ledled y wlad yn barod i ddelio â llifogydd y gaeaf mewn ffordd sydd yn ystyried diogelwch Covid-19.

Yn dilyn mis Chwefror gwlypaf erioed eleni bu rhaid i’r Asiantaeth Amgylcheddol addasu’n gyflym er mwyn ymateb i Stormydd Aiden ac Alex dan gysgod covid.

“Rydym wedi gwneud llawer o waith paratoi i sicrhau y gallwn barhau i ymateb y gaeaf hwn o dan amodau Covid,” meddai.

“Ond mae’n bwysig iawn bod pobol yn paratoi at berygl llifogydd eu hunain.

“Mae lefelau dŵr daear ychydig yn uwch na’r arfer ac nid oes llawer o gapasiti yn y pridd i gymryd mwy o law.”

‘Nadolig oerach a sychach’

Eglurodd Will Lang, pennaeth argyfyngau’r Swyddfa Dywydd y bydd tywydd oerach a sychach dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

“Serch hynny, tu hwnt i hynny mae ein rhagolygon hir dymor ar gyfer Ionawr a Chwefror yn awgrymu’n gyson bod amodau gwlypach, gwyntog a mwynach yn fwy tebygol nag arfer,” meddai.

Ychwanegodd y gallai newidiadau i fywydau oherwydd y pandemig, fel bod yn llai cyfarwydd â gyrru wneud pobol yn fwy agored i niwed – er iddo ddweud y gallai mwy o ymwybyddiaeth o risg helpu i baratoi pobol ar gyfer yr heriau sydd i ddod.

Darllen mwy: