Wrth i drafodaethau barhau ym Mrwsel mae Boris Johnson wedi dweud mai Brexit heb gytundeb yw’r ‘canlyniad mwyaf tebygol’

Dywedodd y Prif Weinidog wrth ei Gabinet ddydd Mawrth, Rhagfyr 15, fod trafodaeth yn parhau.

“Unwaith eto ae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio yr awydd i ddod i gytundeb masnach rydd,” meddai llefarydd ar ei ran.

“Ond nid ar unrhyw gost – ac ailadroddodd fod yn rhaid i unrhyw gytundeb barchu annibyniaeth a sofraniaeth y Deyrnas Unedig.

“Gwnaeth y Prif Weinidog yn glir mai methu â dod i gytundeb a dod â’r cyfnod pontio i ben ar delerau tebyg i Awstralia oedd y canlyniad mwyaf tebygol o hyd, ond ymrwymodd i barhau i drafod ar y meysydd sy’n weddill.”

Mynnodd y llefarydd hefyd fod digon o amser o hyd i basio deddfwriaeth os bydd cytundeb.

Trefniadau dros dro?

Pan ofynnwyd a oedd unrhyw amgylchiadau lle byddai angen rhyw fath o drefniant dros dro, dywedodd y llefarydd fod y Prif Weinidog yn hyderus y bydd yr holl ddeddfwriaeth ddomestig angenrheidiol mewn grym erbyn diwedd y cyfnod pontio ar Ionawr 1.

Gan fod angen i unrhyw fargen gael ei chymeradwyo gan y Senedd ni all y trafodaethau barhau tan Nos Galan, ond mae Aelodau Seneddol wedi rhybuddio efallai bydd rhaid mynychu’r siambr dros gyfnod yr ŵyl.

Mae cytundeb masnach ôl-Brexit rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd dal yn bosib, yn ôl prif negodwr Brwsel Michel Barnier.

Fodd bynnag yn ôl un ffynhonnell “mae’r trafodaethau’n parhau’n anodd iawn”, ac nad ydyn nhw’n agos i gytuno ar rai elfennau.