Cartref gofal yn Sir y Fflint fydd y cyntaf yng Nghymru i dderbyn y brechlyn coronafeirws heddiw.
Eglurodd y Gweinidog Iechyd fod pryder y gallai’r brechlyn fod yn llai effeithiol os caiff ei symud ormod unwaith y bydd wedi dadmer.
“Mae angen i ni sicrhau y gallwn gludo’r brechlyn yn ddiogel i bobol nad ydynt yn gallu dod i glinigau,” meddai.
“Os bydd popeth yn mynd yn dda yr wythnos hon, byddwn yn darparu’r brechlyn yn gynt i gartrefi gofal cyn y Nadolig, gan amddiffyn rhai o’n pobol fwyaf bregus.”
Yr Wyddgrug yn arwain y ffordd
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint mai cartref gofal yn ardal yr Wyddgrug sydd wedi’i ddewis i dreialu brechlyn.
Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Colin Everett, bod y cartref wedi’i ddewis oherwydd ei gysylltiadau agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Pan dw i’n dweud treialu dydw i ddim yn golygu fod yna unrhyw risg yn perthyn i’r broses,” meddai mewn cyfarfod cabinet ddydd Mawrth, Rhagfyr 15.
“Mae’n ymwneud â’r brechlyn yn cael ei gadw ar dymheredd isel a sut mae’n cael ei gludo yno.
“Dewiswyd y cartref gofal hwn oherwydd ei berthynas â Betsi, bydd y berthynas agos yma yn holl bwysig.”
Erbyn dechrau’r wythnos roedd dros 6,000 o bobol yng Nghymru eisoes wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn.
Ond mae’r brechiadau hynny wedi digwydd mewn clinigau – dyma fydd y tro cyntaf i’r brechlyn gael ei gludo i leoliad fel cartref gofal.
I ddechrau bydd y brechlyn ar gael mewn cartrefi gofal sydd yn agos at fferyllfeydd ysbytai, ond y gobaith yw ymestyn hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.