Fe fydd pobl mewn cartrefi gofal yn dechrau cael eu brechu rhag Covid-19 ddydd Mercher (Rhagfyr 16) ymlaen, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 14).
Eglurodd Vaughan Gething byddai brechlyn Pfizer/BioNTech ar gael mewn cartrefi yng ngogledd Cymru yn gyntaf.
Mae dros 6,000 o bobol yng Nghymru eisoes wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn.
“Mae angen i ni sicrhau y gallwn gludo’r brechlyn yn ddiogel i bobol nad ydynt yn gallu dod i glinigau,” meddai Vaughan Gething.
“Mae’n rhaid storio’r brechlyn ar dymheredd isel iawn.
“Mae perygl y gallai fod yn llai effeithiol os caiff ei symud ormod unwaith y bydd wedi dadmer.
“Os bydd popeth yn mynd yn dda yr wythnos hon, byddwn yn darparu’r brechlyn yn gynt i gartrefi gofal cyn y Nadolig, gan amddiffyn rhai o’n pobol fwyaf bregus,” meddai.
Dros 100,000 o achosion yng Nghymru
Mae 1,228 o achosion pellach o’r coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru heddiw gan fynd â chyfanswm nifer yr achosion hyd yma a i 101,953.
Roedd 14,000 o achosion newydd o’r feirws yn ystod yr wythnos diwethaf.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 33 o farwolaethau eraill.
Mae 2,882 o bobol bellach wedi marw o’r feirws yng Nghymru.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod achosion yn codi ym mhob ardal awdurdod lleol ond un yng Nghymru,” ychwanegodd Vaughan Gething.
“Mae hyn yn dangos fod y coronafeirws ar gynnydd yn ein cymunedau ac mae’r siawns o’i ddal neu ei ledaenu pryd bynnag y byddwn mewn cysylltiad â phobol eraill yn uchel.
“Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bawb beidio cymysgu â phobol nad ydych chi’n byw gyda nhw.”
Penwythnos prysuraf y Gwasanaeth Iechyd
Eglurodd Vaughan Gething fod y Gwasanaeth Iechyd wedi profi un o’r penwythnosau prysuraf eleni oherwydd pwysau’r gaeaf a phwysau Covid-19.
“Bydd nifer o’r bobol sydd angen triniaeth ysbyty yno am wythnosau, ac angen cefnogaeth ddwys,” meddai.
“Mae nifer sylweddol o staff iechyd i ffwrdd yn sâl neu’n hunan-ynysu, felly mae prinder staff mewn rhannau allweddol o’r gwasanaeth.”
Mae byrddau iechyd yn gorfod gohirio triniaethau er mwyn blaenoriaethu pwysau’r gaeaf a’r pandemig.