Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio triniaethau a chlinigau sydd ddim yn rhai brys o heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 14).

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd mewn achosion o Covid-19 o fewn y gymuned a’r pwysau arferol ar ofal brys yn ystod y gaeaf.

Mewn datganiad dywed y bwrdd: “Nid ar chwarae bach y bu i ni wneud y penderfyniad hwn, fodd bynnag o ganlyniad i drosglwyddiad cynyddol Covid-19 o fewn ein cymunedau, ar y cyd â galw arferol y gaeaf ar ein gofal brys, mae’n cael effaith fawr ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau arferol.”

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi pwysleisio y bydd triniaethau ar gyfer cleifion canser a’r rheiny sydd angen gofal clinigol brys yn parhau.

Fe fyddan nhw’n gwneud y newidiadau canlynol i’w gwasanaethau:

  • Bydd yr holl glinigau nad ydynt yn frys yn cael eu gohirio.
  • Bydd yr holl driniaethau wedi’u cynllunio nad ydynt yn frys yn cael eu gohirio – Fe fyddan nhw’n sicrhau bod cleifion sy’n ffit yn feddygol, nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach, yn cael gadael yr ysbyty yn gyflym ar ôl asesiad risg.
  • Bydd gwasanaethau endosgopi a radioleg (pelydr-x) yn parhau’r un fath ac ni fydd triniaethau ar gyfer cyflyrau ar y galon yn cael eu gohirio. Bydd y rhaglen frechu Covid-19 yn cael ei blaenoriaethu hefyd.
  • Ni fydd gwasanaethau iechyd meddwl i blant ac oedolion yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn.