Mae llanc 14 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio bachgen 12 oed.

Cafwyd hyd i gorff Roberts Buncis ddydd Sadwrn (Rhagfyr 12) yn Fishtoft, ger Boston, meddai Heddlu Swydd Lincoln.

Mae’r llanc yn cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron llys bore ma (Dydd Llun, Rhagfyr 14).

Yn y cyfamser mae dyn 19 oed a gafodd ei arestio ddydd Sadwrn yn parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth i’r “digwyddiad trasig.”

Cafodd yr heddlu eu galw i Alcorn Green yn Fishtoft am 10.22yb ddydd Sadwrn lle cafwyd hyd i gorff Roberts Buncis.

Mae tudalen JustGiving i godi arian ar gyfer teulu Roberts Buncis bellach wedi codi £10,000.