Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan siom ynglŷn â’r broses recriwtio Cyfarwyddwr Addysg y Llywodraeth.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod yr hysbyseb gwreiddiol yn nodi nad oedd y Gymraeg yn angenrheidiol i’r swydd.

Yn ddiweddarach, newidiwyd y gofynion iaith i “Gymraeg cwrteisi”, sef y gallu i ynganu enwau Cymraeg a’r parodrwydd i ddefnyddio cyfarchion sylfaenol Cymraeg.

Mae’n debyg y bydd y swydd yn hollbwysig wrth arwain cynlluniau’r Llywodraeth ym maes addysg i greu Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

“Digalon”

“Peth digalon yw nodi’r diffyg galw am sgiliau ac ymwybyddiaeth iaith ymysg Gweision Sifil y Llywodraeth,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad Dyfodol i’r Iaith.

“Mae’n debyg bod hyn yn bwysicach mewn perthynas ag addysg na’r un maes polisi arall. Gwelsom y diffyg hwn yn ddiweddar iawn gyda gwallau anfwriadol Bil y Cwricwlwm yn bygwth tanseilio addysg drochi Cymraeg ac yna’r camsyniad y dylid trin yr iaith fel un ‘leiafrifol’ yn hytrach na’i hyrwyddo’n rhagweithiol  fel cyfrwng cenedlaethol i bawb.

“Yn amlwg, byddwn o blaid penodi ymgeisydd cryf i’r swydd allweddol hon, ond byddwn yn mynnu’r un pryd ar amodau i ddysgu’r iaith i lefel o ruglder ac am ymwybyddiaeth a dealltwriaeth sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ‘gwrteisi’.

“Tra erys y gofynion mor llac, yna bydd peryg y byddwn y parhau i droi yn ein hunfan, yn gorfod esbonio’r cefndir yn dragywydd yn hytrach na bwrw ymlaen gyda thwf y Gymraeg.”