Mae cwestiynau wedi’u codi am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r iaith, yn ymateb i hysbyseb swydd (am brif rôl) lle dyw’r Gymraeg ddim yn hanfodol.

Mae’r Llywodraeth yn gobeithio penodi ‘Cyfarwyddwr Addysg’ ac mae hysbyseb y rôl honno (mae’r dyddiad cau bellach wedi bod) yn nodi bod sgiliau Cymraeg “ddim yn angenrheidiol”.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog mae Siân Gwenllian AoS, yn cyfleu ei siom ac yn tynnu sylw at y ffaith bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod eu “holl staff” yn medru’r Gymraeg erbyn 2050.

Hefyd mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i “ddod yn sefydliad sy’n dangos esiampl o safbwynt cynyddu’r defnydd o’r iaith” yn ystod blynyddoedd cyntaf strategaeth y miliwn.

Ond mae AoS Plaid Cymru Arfon yn teimlo bod hysbyseb y rôl £93,000 yn dangos mai geiriau gwag yw’r addewid yma.

“Pa ffydd o gwbl allwn ni gael yn Strategaeth defnydd mewnol y Llywodraeth o’r Gymraeg os ydyw wedi methu ar y prawf cyntaf?” meddai yn y llythyr at Mark Drakeford.

“A phrawf a osodwyd gan y Llywodraeth iddi hi ei hun o ran arwain drwy esiampl yn yr Uwch Wasanaeth Sifil.

“Erfyniaf arnoch felly fel Prif Weinidog i ail ddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i’r Strategaeth yn fwy cyffredinol ynghyd â’r weledigaeth flaengar sy’n sail iddi,” meddai wedyn.

Mae’n debyg y bydd y swydd yn hollbwysig wrth arwain cynlluniau’r Llywodraeth ym maes addysg i greu Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

Mae’n ymddangos y bydd y swydd hefyd yn cynnwys dyletswydd dros oruchwylio Is-adran y Gymraeg.

Sylwadau’r Ysgrifennydd Parhaol

Daw llythyr Siân Gwenllian wedi i Delyth Jewell, AoS Plaid Cymru arall, godi pryderon am y mater yn ystod sesiwn diweddaraf Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd.

Ymhlith y rheiny a oedd yn rhoi tystiolaeth oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru, Peter Kennedy.

Dywedodd yntau wrth y Pwyllgor mai “camgymeriad” oedd y blwch yn nodi nad yw’r Gymraeg yn angenrheidiol ac y bydd y disgrifiad swydd yn cael ei ail-lunio.

Roedd Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Shan Morgan, hefyd yn rhan o’r sesiwn, ac mae Siân Gwenllian yn anfodlon a rhai o sylwadau’r swyddog gerbron y pwyllgor.

“A bod yn berffaith glir: dw i’n trio cynhyrchu brwdfrydedd at yr iaith gyda’r strategaeth yma, yn hytrach na chreu teimlad annifyr neu’r argraff na allwch ddod yma os nad ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl… dw i eisiau annog pobol dda i ddod yma,” meddai’r Ysgrifennydd Parhaol.

Mae’r AoS wedi dweud ei bod yn “anghyffyrddus” â sylwadau’r Ysgrifennydd, ac wedi galw ar i’r Prif Weinidog sicrhau bod gweision sifil yn deall strategaeth y miliwn.

“Erfyniaf arnoch yn ogystal i sicrhau bod dealltwriaeth gref am y weledigaeth yn uwch rengoedd y gwasanaeth sifil a bod eich cyd Aelodau Llafur o’r Senedd yn ei hyrwyddo, nid yn alinio eu hunain â grymoedd adweithiol i’w thanseilio,” meddai Siân Gwenllian yn ei llythyr.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.