Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi galw am brofion torfol ar gyfer y coronafeirws ledled Cymru.

Mae e wedi cyfeirio at raglen brofi dorfol yn Slofacia, lle mae cyfraddau heintio wedi gostwng 60% mewn un wythnos yn unig.

Roedd llwyddiant y dull yn deillio o raddfa’r profion a graddau’r mesurau cysylltiedig, megis cymorth economaidd uwch i’r rhai sy’n hunanynysu, medd Plaid Cymru.

Ac mae’r blaid nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen brofi debyg.

Dywed Adam Price y gallai’r rhaglen gael ei hailadrodd yng Nghymru i “dorri’r cylch o gyfyngiadau symud.”

Dull Slofacia

“Yn ystod ychydig ddyddiau, profodd Slofacia, gwlad â phoblogaeth o 5.4 miliwn, 3.6 miliwn o bobl ar gyfer coronafeirws a daeth y profion torfol hyn, ynghyd â mesurau eraill, â’r gyfradd heintio i lawr 60%,” meddai.

“Mae llwyddiant dull Slofacia nid yn unig o ran maint y profion ond yn y gefnogaeth economaidd uwch i’r rhai sy’n hunanynysu.

“Mae diffyg eglurder yng Nghymru ar hyn o bryd ynglŷn â ble rydyn ni’n cael ein harwain rhwng nawr a’r Gwanwyn.

“Mae angen strategaeth arnom ar gyfer adennill rheolaeth, ar gyfer ailagor, ac ar gyfer ein hadferiad, ond yr hyn sy’n bwysicach fyth yw cefnogaeth y cyhoedd i gynllun o’r fath.

“Onid nawr yw’r amser y mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun gaeaf newydd?”