Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi rhannu cyngor ar sut mae caredigrwydd yn gwneud lles i iechyd meddwl dros gyfnod y Nadolig.

Y Nadolig hwn, mae dros hanner (56%) oedolion Cymru yn poeni ynghylch iechyd meddwl rhywun maen nhw’n ei adnabod, yn ôl arolwg sydd wedi’i gyhoeddi gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Wrth i’r Nadolig agosáu, mae 53% o bobol yng Nghymru yn mynegi eu pryderon am iechyd meddwl plant, tra bod 32% yn poeni am ei gŵr neu wraig.

Mae 36% yn poeni am eu perthnasau, tra bod 30% yn poeni am eu ffrindiau.

“Yr hyn fyddwn ni’n ei gofio am y flwyddyn hon yw’r pandemig creulon a sut yr amlygodd anghydraddoldeb dwfn yn ein cymdeithas ond hefyd am y llifeiriant cyhoeddus o garedigrwydd yn ein cymunedau wrth i ni wynebu her anferthol,” meddai Jenny Burns, Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru.

“Gyda gobaith ar y gorwel, mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod tosturi dal yn fyw yng Nghymru, gyda mwy na hanner oedolion Cymru yn pryderu ynghylch iechyd meddwl rhywun yn eu bywydau.”

33% o oedolion yn teimlo’n orbryderus

Mae arolwg YouGov o 2,109 oedolyn yn y Deyrnas Unedig, a gafodd ei gomisiynu gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, wedi canfod bod un ym mhob tri oedolyn (33%) yn dweud eu bod yn teimlo’n orbryderus neu dan straen ar drothwy tymor y Nadolig.

Ac mae dau ym mhob pump (40%) yn dweud eu bod yn teimlo’n hapus, yn obeithiol neu’n gynhyrfus am yr ŵyl.

“O gofio’r heriau anferthol rydym wedi’u hwynebu yn 2020, mae gan bobl ystod o emosiynau ar hyn o bryd yn cynnwys gorbryder, rhyddhad a gobaith,” meddai Jenny Burns.

“Mae llawer o bobl yn pryderu am les eraill, sy’n hynod o bwysig gan ein bod yn gwybod nad yw’r pandemig wedi effeithio ar bawb yn gyfartal.

“Fel cymdeithas, mae’n rhaid i ni ddechrau cymryd caredigrwydd o ddifrif a gall cymhwyso caredigrwydd mewn polisïau cyhoeddus gynnig potensial anferthol ar gyfer gwlad iachach a hapusach.

“Mae caredigrwydd yn creu’r cyfalaf cymdeithasol sydd ei angen arnom yn ein cymunedau er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau cymdeithasol, economaidd ac iechyd meddwl yr argyfwng a allai barhau am flynyddoedd i ddod.”