Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfnod hunanynysu rhag Covid-19 yn cael ei ostwng o 14 diwrnod i ddeg.
Yn ôl y llywodraeth, mae’r penderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth sydd yn awgrymu nad yw unigolion yn heintus ar ôl deg diwrnod.
Bydd y cyngor newydd ar hunanynysu yn berthnasol i:
- bobol sydd wedi derbyn canlyniad positif yn dilyn prawf Covid-19
- pobol sydd â symptomau Covid-19 sy’n aros am ganlyniad prawf
- pobol sy’n byw gyda rhywun sy’n dangos symptomau Covid-19, neu sydd wedi derbyn canlyniad positif
- cysylltiadau agos achosion positif o Covid-19
- Teithwyr sy’n dychwelyd o wlad sydd heb ei heithrio rhag hunanynysu
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr ap olrhain cysylltiadau hefyd yn cael ei ddiweddaru pan fydd y rheol newydd yn dod i rym yfory (dydd Iau, Rhagfyr 10).
“Rydyn ni’n gwybod fod hunanynysu yn anodd i bobl, ac rydyn ni’n credu y bydd teuluoedd, cymunedau a busnesau yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw i leihau’r cyfnod y mae’n rhaid i bobl hunanynysu yn ddiogel,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
“Mae hunanynysu a chwarantîn yn chwarae rhan allweddol wrth atal y coronafeirws rhag lledaenu, a dwi am ddiolch i bawb sy’n parhau i ddilyn y rheolau ac yn chwarae eu rhan i Ddiogelu Cymru.”