Mae Joe Biden, darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn galw am weithredu brys i fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws wrth iddo enwi ei dîm gofal iechyd.

Mae wedi gosod tair blaenoriaeth Covid-19 ar gyfer ei 100 diwrnod cyntaf yn y swydd, sef:

  • galw ar Americanwyr i wisgo masgiau,
  • darparu 100 miliwn o frechlynnau,
  • ac addewid i geisio ailagor mwyafrif o ysgolion y wlad.

Ymhlith y tîm gofal iechyd mae’r ysgrifennydd iechyd Xavier Becerra ac Anthony Fauci, arbenigwr y llywodraeth ar glefydau heintus.

Mae mwy na 200,000 o achosion newydd o Covid-19 yn cael eu cofnodi yn yr Unol Daleithiau bob dydd a mwy na 2,200 o farwolaethau yn gysylltiedig â’r feirws bob dydd.

Mae disgwyl brechlynnau yno’n fuan.

Bydd cynghorwyr gwyddonol y llywodraeth yn cyfarfod yfory (dydd Iau, Rhagfyr 10) i wneud argymhelliad o ran brechlyn Pfizer, sydd eisoes ar gael yng ngwledydd Prydain.

Ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 8), rhybuddiodd Biden fod diffygion wedi bod yng nghynlluniau gweinyddiaeth Donald Trump i ddarparu brechiadau, a galwodd ar y Gyngres i basio deddfwriaeth i ariannu’r gwaith o weinyddu brechlynnau.

Heb os, un o heriau mwyaf gweinyddiaeth newydd Biden fydd brechu 330m o Americanwyr.

Bydd gweddill agenda gofal iechyd Biden, gan gynnwys ehangu’r ddarpariaeth yswiriant, yn debygol o ddibynnu ar sut mae ei weinyddiaeth yn mynd i’r afael â’r pandemig.