Mae Ed Miliband, llefarydd busnes Llafur yn San Steffan, yn dweud bod cymunedau Cymru’n “talu’r pris am anallu Boris Johnson”.
Daw ei sylwadau yn dilyn y cyhoeddiad mai yn Ffrainc, ac nid ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y bydd cerbydau Grenadier y cwmni Ineos yn cael eu cynhyrchu.
Y gobaith oedd y byddai denu’r gwaith i Gymru’n creu hyd at 500 o swyddi, wrth i 25,000 o gerbydau Grenadier gael eu cynhyrchu bob blwyddyn.
Ar ôl penderfynu mynd â’r gwaith i Ffrainc, daeth cadarnhad y byddai’r safle yno yn adeiladu ceir trydan Daimler Smart EQ, ac yn cyflenwi cydrannau Mercedez Benz.
‘Newyddion dinistriol’
“Mae’n newyddion dinistriol y bydd y car Grenadier yn cael ei adeiladu yn Ffrainc yn hytrach nag ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig yn dilyn cau ffatri Ford gan arwain at ddegau o swyddi sgiliau uchel yn cael eu colli,” meddai Ed Miliband.
“Mae petruso, oedi a methiant Boris Johnson i weithredu’n ymddangos fel pe bai wedi arwain at golli dau o brif gyflogwyr yr ardal – ac mae’n dorcalonnus y bydd cymunedau yng Nghymru’n talu’r pris am ei anallu.
“Mae hefyd yn bradychu sylweddol o ran addewidion a gafodd eu gwneud gan y Ceidwadwyr yn ystod yr etholiad i gyflwyno swyddi a buddsoddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”