Mae nyrsys sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu prisiau tai 11.1 gwaith yn uwch na’u cyfoedion.

Mae’r ymchwil gan yr asiantaeth tai cenedlaethol Keller Williams UK yn datgelu bod nyrsys o dan “anfantais ariannol ddifrifol” wrth geisio prynu eu tai cyntaf a hynny er gwaethaf y rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae.

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Shunak fis Tachwedd y byddai cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu rhewi – ac eithrio cyflogau nyrsys, doctoriaid, a staff eraill y Gwasanaeth Iechyd.

Fodd bynnag, mae’n annhebygol bydd y cynnydd yn pontio’r bwlch presennol o £2,856 rhwng y cyflog net blynyddol cyfartalog yng ngwledydd Prydain a chyflog net blynyddol cyfartalog nyrsys.

Prydain Lloegr Cymru Yr Alban
Pris Tŷ Cyfartalog  £247,466 £261,795 £170,604 £161,510
Cyflog NET blynyddol cyfartalog nyrsys £22,389 £22,506 £22,891 £21,760
Cymhareb pris tai i incwm nyrsys 11.1 11.6 7.5 7.4
Cyflog NET blynyddol cyfartalog person cyffredin £25,246 £25,563 £21,869 £24,028
Cymhareb pris tai i incwm person cyffredin 9.8 10.2 7.8 6.7

Ystadegau o ymchwil Keller Williams UK

Gyda’r person cyffredin yng ngwledydd Prydain yn ennill incwm blynyddol net o £25,246 o gymharu â phris eiddo cyfartalog o £247,466, mae’r gymhareb bresennol o ran prisiau tai i incwm drwyddi draw yn 9.8.

Ond mae’r incwm cyfartalog i nyrsys drwyddi draw o £22,389 yn golygu bod y gymhareb pris tai i iwncwm iddyn nhw yn 11.1.

Mae’r cyfraddau yn amrywio mewn gwahanol rannau o’r Derynas Unedig ac yn ôl ystadegau gan Keller Williams, Cymru yw’r unig wlad lle mae cyfartaledd incwm nyrsys yn uwch na’r cyflog blynyddol ar gyfer y person cyffredin.

‘Annhebygol o fynd i’r afael â’r gwahaniaethau’

“Ein gweithwyr rheng flaen sy’n haeddu’r lefel fwyaf o ddiolchgarwch am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, ac felly mae’n galonogol gweld y gallant ddisgwyl codiad cyflog yn 2021,” meddai Ben Taylor, prif swyddog gweithredol Keller Williams UK.

“Wedi dweud hynny, mae’n annhebygol o fynd i’r afael â’r gwahaniaeth presennol rhwng cyflog nyrsys a’r person arferol.

“Pan ystyriwch yr effaith y mae’r gyfradd gyflog is hon yn ei chael mewn unrhyw faes bywyd, heb sôn am y farchnad eiddo, mae’n amlwg bod ein nyrsys sy’n gweithio’n galed o dan anfantais ariannol ddifrifol er gwaethaf y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae.”