Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau achosion positif o’r coronafeirws yn Ysgol Gynradd Aberaeron ac Ysgol Bro Teifi, Llandysul.
Mae disgyblion a staff yn Ysgol Bro Teifi sydd wedi bod mewn cyswllt â’r achos cadarnhaol a’r rheini sy’n teithio ar yr un bws a nhw wedi cael gwybod.
O ganlyniad, mae gofyn i flynyddoedd 6 i 13 yn yr ysgol aros gartref am weddill yr wythnos tra bod y sefyllfa yn cael ei hasesu.
Yn y cyfamser, mae’r Cyngor Sir hefyd wedi gofyn i ddisgyblion a staff o ddosbarth meithrin yn Ysgol Gynradd Aberaeron hunanynysu am gyfnod o 14 diwrnod ar ôl i achos cadarnhaol gael ei gofnodi yno.
Mewn datganiad, dywed Cyngor Sir Ceredigion eu bod nhw’n annog pob rhiant i fynd a’u plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw symptomau.