Mae Guto Bebb, cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, wedi dweud ei “bod yn hollol deg i ddweud rŵan fod y Blaid Geidwadol wedi troi’n blaid genedlaetholgar Seisnig”.

Daw ei sylwadau am ei gyn-blaid mewn cyfweliad â chylchgrawn Barn.

Roedd ymhlith 21 o Dorïaid a gollodd y chwip ar ôl pleidleisio (gyda’r gwrthbleidiau) o blaid rhwystro Brexit heb ddêl, a phenderfynodd beidio â sefyll yn etholiad cyffredinol 2019.

Yn y darn, mae’n tynnu sylw at “y Torïaid hynny” sy’n credu bod chwalu’r undeb yn “bris gwerth ei dalu” am Brexit, a’r ffaith fod y safiad yma’n gwrthdaro â thueddiad unoliaethol hanesyddol y blaid.

“Nid agweddau Prydeinig ydi’r rhain ond agweddau cenedlaetholdeb Seisnig,” meddai.

“A dwi o ddifri’n meddwl mai trasiedi yn y cyd-destun Cymreig ydi bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi troi i fod yn lladmerydd dros genedlaetholdeb Seisnig er gwaetha holl ymdrechion pobol fel Nick Bourne i newid y ffordd roedd y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn cael ei gweld.

“A dwi’n meddwl bod perfformiad rhai o arweinwyr y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi bod yn hynod siomedig.”

Roedd Nick Bourne yn arweinydd ar y Ceidwadwyr Cymreig rhwng 1999 a 2011, ac mae’n cael ei ystyried yn wleidydd a lywiodd ei blaid i ffwrdd o’i gelyniaeth tuag at ddatganoli.

“Gwneud drwg mawr”

Mae’r academydd Richard Wyn Jones wedi disgrifio’r blaid yn ‘Blaid-Popeth-yn-Well-yn-Lloegr’, ac mae Guto Bebb yn tynnu sylw at y term yn y cylchgrawn.

“Yr hyn sy’n drist ydi bod llwyddiant etholiadol Plaid-Popeth-yn-Well-yn-Lloegr wedi bod yn fwy syfrdanol nag unrhyw lwyddiant gafodd Nick Bourne a’r Ceidwadwyr Cymreig,” meddai.

“Felly efallai mai nhw sy’n iawn.

“Ond mae’r hyn mae’r polau piniwn yn yr Alban yn ei ddangos, a’r hyn sydd o reidrwydd yn mynd i ddigwydd maes o law yng Ngogledd Iwerddon, yn dangos yn glir bod cenedlaetholdeb Seisnig y Blaid Geidwadol wedi gwneud drwg mawr i’r syniad o Brydeindod.”

Peryglu datganoli?

Mae’r darn yn nodi mai “ofn mawr” Guto Bebb yw y bydd cynlluniau ôl-Brexit Llywodraeth San Steffan yn rhoi mwy o bwerau i Swyddfa Cymru yn Llundain gan danseilio datganoli.

“Fe wnes i ymuno â’r Blaid Geidwadol ar ôl i William Hague [arweinydd y blaid 1997-2001] ddweud bod y ddadl dros ddatganoli wedi dod i ben,” meddai.

“Mae o felly’n beth trist iawn fod yr union lywodraeth sy’n datgan ei bod hi eisiau cael rheolaeth yn agosach at adra yn hytrach na rheolaeth o Frwsel yn gweld datganoli’n fygythiad i’w gallu i dra-arglwyddiaethu ym Mhrydain.

“Fyddai Prydain sy’n cynnwys Cymru a Lloegr yn unig ddim yn beth braf i’w ystyried. Mi fyddai’n bartneriaeth unochrog iawn.”

Aberconwy

Mae Guto Bebb bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Rheoli Gwasanaethau Yswiriant gydag Undeb Amaethwyr Cymru.

Robin Millar, Aelod Seneddol Ceidwadol, sydd yn cynrychioli Aberconwy ers 2019.

“Doedd cael fy niarddel gan Boris [Johnson y Prif Weinidog] yn poeni dim arna i,” meddai Guto Bebb yn y darn.

“Doedd gen i ddim diddordeb mewn cyfaddawdu.”

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig nad ydyn nhw am wneud sylw.