Mae Aelod Seneddol Ceidwadol sydd wedi colli’r chwip ar ól mynd yn groes i’r llywodraeth neithiwr (nos Fawrth, Medi 3) yn dweud mai “pleidlais dros Brexit â chytundeb” oedd ei fót yn Nhy’r Cyffredin, yn hytrach na phleidlais yn erbyn Boris Johnson.

Ac mae’r cyn-aelod o  Blaid Cymru yn methu gwrthod y bydd yn croesi’r llawr i ail-ymuno â’r blaid honno.

Yn ol Guto Bebb, doedd yna “ddim byd trawiadol” am y modd y bwriodd ei groes, gan ychwanegu ei fod yn “rhyfeddol” fod 21 o aelodau seneddol Toriaidd nawr wedi colli’r chwip – a bod y rheiny’n cynnwys Philip Hammond, Oliver Letwin a Nicholas Soames, ŵyr Winston Churchill.

Trwy golli’r chwip, mae hyn yn golygu na fydd Guto Bebb yn cael sefyll ar ran y Blaid Geidwadol adeg yr etholiad nesaf.

Croesi’r llawr at Blaid Cymru?

Wrth ymateb i alwadau gan rai o gefnogwyr Plaid Cymru – yn cynnwys y cynghorydd Simon Brooks o Borthmadog, arno i “groesi’r llawr” ac ail-ymuno â Phlaid Cymru – dydi Guto Bebb ddim am ei gael ei dynnu yr un ffordd na’r llall.

“Dw i am fod fel Trebor Edwards pan mae o’n dweud, ‘un dydd ar y tro’,” meddai,

Ymateb Aberconwy

Dydi Guto Bebb ddim yn gwybod eto beth yn union yw barn ac ymateb ei etholwyr ei hun yn Aberconwy i’w benderfyniad i bleidleisio yn erbyn y llywodraeth yn San Steffan neithiwr.

Ond o ran safbwynt yr ymateb y mae wedi’i derbyn ar ebost, mae “tua 60% ohonyn nhw”, meddai, o blaid ei safbwynt a’r 40% arall yn erbyn.

“Mae yna lawer o waith o’n blaenau heddiw (dydd Mercher) i fynd â’r maen i’r wal.”

Heddiw fe fydd yna drafodaeth ynglŷn â phasio deddfwriaeth i oedi Brxsit. Os y bydd yn cael ei basio, fe fydd yna bleidlais arall ar gynnal etholiad cyffredinol.