Mae’r MHRA wedi cyhoeddi rhybudd am alergedd ar ôl i ddau weithiwr iechyd yn Lloegr adweithio i frechlyn coronafeirws Pfizer.
Maen nhw’n rhybuddio na ddylai unrhyw un ag alergeddau sylweddol i feddyginiaethau, bwyd a brechlynnau dderbyn y brechlyn am y tro.
Mae lle i gredu bod y ddau aelod o staff yn cludo chwistrell alergedd gyda nhw bob amser.
Mae pob awdurdod sydd â chyfrifoldeb am roi’r brechlynnau wedi cael gwybod am y digwyddiadau, a bydd unrhyw un sydd i fod i dderbyn y brechlyn o hyn ymlaen yn cael eu holi am alergeddau.
Dywed yr MHRA na ddylid rhoi’r brechlyn oni bai bod cyfleusterau adfywio cleifion ar gael ar y safle.
Dywed Pfizer nad oedd neb wedi adweithio i’r brechlyn yn ystod y treialon ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw “bryderon diogelwch difrifol”.