Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn teithio i Frwsel heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 9) i gynnal trafodaethau ag Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, yn y gobaith o daro bargen Brexit.

Mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi cynlluniau o’r neilltu a fyddai wedi galluogi gweinidogion i dorri cyfreithiau rhyngwladol ac a fyddai wedi sarhau’r setliad datganoli drwy ddychwelyd pwerau i San Steffan.

Daw hynny ar ôl i’r ddwy ochr ddod i gytundeb ynghylch cyflwyno’r Bil Ymadael, gyda’r cyfnod pontio yn dod i ben ar Ragfyr 31.

Serch hynny, mae Michel Barnier, prif drafodwr Brwsel, yn rhybuddio bod ymadawiad heb gytundeb yn fwy tebygol na sefydlu cytundeb masnach erbyn hyn.

Bydd Boris Johnson yn gadael am Frwsel ar ôl Sesiwn Holi’r Prif Weiniog, ac mae Ursula von der Leyen yn dweud ei bod hi’n “edrych ymlaen” at ei groesawu i brifddinas Gwlad Belg ar gyfer y trafodaethau.

Y trafodaethau

Mae Downing Street yn gobeithio y bydd Michel Barnier a’r Arglwydd Frost, prif drafodwr Llywodraeth Prydain, yn ailafael yn eu trafodaethau nhw yn dilyn ei gyfarfod ag Ursula von der Leyen.

Ond mae rhybudd fod rhaid dod o hyd i dir cyffredin cyn y gall hynny ddigwydd.

Mae disgwyl i arweinwyr 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod yfory (dydd Iau, Rhagfyr 10) am uwchgynhadledd fydd yn para deuddydd.

Mae Michael Gove a Maros Sefcovic o gyd-bwyllgor y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, eisoes wedi dod i gytundeb ar wiriadau ger y ffin a rheolau masnachu ar gyfer Gogledd Iwerddon, sydd hefyd yn cynnwys gwiriadau ffin ar gynnyrch anifeiliaid a phlanhigion, cyflenwadau meddygol a chigoedd oer a chynnyrch bwyd ar gyfer archfarchnadoedd.

Mae lle i gredu mai pysgodfeydd yw un o’r meini tramgwydd yn y trafodaethau o hyd.

Daw hyn wrth i’r OBR awgrymu y gallai ymadawiad heb gytundeb ostwng Cynnyrch Domestig Gros o 2% yn 2021.

Ac mae Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, yn rhybuddio y gall ymadawiad heb gytundeb fod yn fwy dinistriol i’r economi na’r coronafeirws.