Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi fod Ysgol Uwchradd Llanidloes yn cau i ddisgyblion o ddydd Mercher (Rhagfyr 9) wedi i’r pandemig coronafeirws effeithio ar lefelau staff.

Dywedodd y Cyngor nad oes ganddynt lefelau digonol o staff i barhau ar agor.

Bydd yr holl ddisgyblion yn derbyn addysg ar-lein hyd at ddydd Gwener (Rhagfyr 18), sef diwrnod olaf y tymor.

Bydd yr ysgol yn ailagor i ddysgwyr wedi gwyliau’r Nadolig ar ddydd Mawrth 5 Ionawr, 2021.

“Mae’r uwch dîm arwain yn Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi cyflwyno nifer o fesurau i sicrhau diogelwch a lles dysgwyr a staff yn ystod y pandemig hwn,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod o’r Cabinet dros Addysg.

“Fodd bynnag, mae nifer o staff yr ysgol yn absennol am amrywiol resymau gan gynnwys staff yn gofalu am blant ifanc sydd wedi cael eu hanfon adref i hunanynysu, staff sydd wedi derbyn cyngor i hunanynysu gan y Tîm Profi, Olrhain a Diogelu a rhai sydd ag aelodau o’r teulu sy’n symptomatig ac y mae gofyn iddynt hunanynysu.

“Mae hyn wedi golygu nad oes gan yr ysgol uwchradd lefelau digonol o staff i barhau ar agor yn ddiogel ac fe fydd yn cau erbyn hyn i ddisgyblion tan ddydd Mawrth, 5 Ionawr.

“Mae staff dysgu yn Ysgol Uwchradd Llanidloes yn parhau’n ymroddedig i sicrhau y bydd yr holl ddysgwyr yn derbyn addysg ar-lein dros y ddwy wythnos nesaf.

“Rydym yn gofyn i rieni/gwarcheidwaid wneud y cyfan y medrant i sicrhau fod eu plant yn cymryd rhan yn weithgar yn eu haddysg dros y cyfnod hwn.”

Bydd manylion pellach yn cael eu cyflwyno gan yr ysgol i rieni yn y man.