Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am gynnal profion torfol ar draws Cymru.

Yn ôl Adam Price roedd rhaglen o brofion torfol yn Slofacia wedi arwain at ostyngiad o 60% yn nifer y bobl oedd yn cael eu heintio gyda Covid-19 o fewn wythnos.

Dywedodd y byddai defnyddio’r un system a Slofacia yng Nghymru yn “torri’r cylch o gyfnodau clo.”

“Roedd yr ymdrech yn Slofacia yn llwyddiant nid yn unig oherwydd faint o brofion oedd yn cael eu cynnal ond oherwydd y cymorth economaidd uwch i’r rhai hynny oedd yn hunanynysu,” meddai Adam Price.

Cafodd y mater ei godi yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, pan ofynnodd Adam Price am fwy o eglurder ynglŷn â’r camau nesaf hyd at y Gwanwyn.

Wrth ymateb dywedodd Mark Drakeford bod yn rhaid cydnabod “difrifoldeb y sefyllfa ry’n ni’n ei wynebu yng Nghymru” ac mae wedi galw ar bawb i “wneud y peth iawn” i ddod a’r firws o dan reolaeth.

Ond mae Adam Price yn dadlau bod angen “strategaeth i ddod [a’r firws] o dan reolaeth, ar gyfer ail-agor, ac ar gyfer ein hadferiad ond beth sydd hyd yn oed yn bwysicach yw cefnogaeth y cyhoedd i gynllun o’r fath” gan bwysleisio bod angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun newydd ar gyfer y Gaeaf.