Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi awgrymu y bydd angen cyflwyno mesurau pellach ar ôl y Nadolig i fynd i’r afael a chynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Serch hynny, dywedodd yn ystod Cyfarfod Lawn o’r Senedd brynhawn dydd Mawrth (Rhagfyr 8) nad oedd yn meddwl y byddai angen cyflwyno mesurau ychwanegol cyn y Nadolig.

“Gall neb wadu wythnos yma nad oedd y mesurau rydym ni wedi eu cymryd [yn y sector lletygarwch] y rhai cywir i’w cymryd,” meddai.

“Mae angen i ni roi amser i’r mesurau hyn gael cyfle i wneud gwahaniaeth, ynghyd a newid ymddygiad pobol i ostwng y cyfraddau eto.

“Dydw i ddim yn meddwl fod hynny’n golygu y byddwn ni’n cyflwyno mesurau pellach ochr yma’r Nadolig – ond ochr arall y Nadolig mae’r awgrymiadau yn yr adroddiad TAC [Cell Cyngor Technegol] yn dangos bydd cyfnod o lacio dros y Nadolig yn arwain at gynnydd eto.

“Golygai hyn fod rhaid i unrhyw lywodraeth gyfrifol feddwl am y mesurau bydd angen eu cyflwyno er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd a lleihau’r marwolaethau.”

“Osgoi” ateb cwestiynau

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o “osgoi” ateb cwestiynau ynglŷn â chyflwyno mesurau pellach.

“Nid yw ei ymateb ei fod ..’ddim yn credu y byddwn ni yn cyflwyno mesurau eraill cyn y Nadolig’ ond yn awgrymu y gallen nhw gael eu cyflwyno ar ôl hynny, yn rhoi unrhyw sicrwydd ar ddiwrnod a ddylai fod yn llawn gobaith,” meddai.

Roedd yn cyfeirio at y broses o ddechrau rhoi’r brechlyn Covid i bobl ar draws y Deyrnas Unedig heddiw. Bydd 6,000 o ddosau o’r brechlyn wedi cael eu rhoi i bobol yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos.

Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 780 o achosion newydd o’r coronafeirws wedi cael eu hadrodd heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 8) a 31 o farwolaethau. Daw hyn a chyfanswm yr achosion yng Nghymru hyd yn hyn i 91,792 a 2,725 o farwolaethau.

“Cyfyngu ar ryngweithio â phobl eraill”

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i’r achos o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru bod achosion o’r coronafeirws ar gynnydd yn y rhan fwyaf o Gymru.

“Os ydym am ryngweithio’n ystyrlon ac yn ddiogel o fewn y ‘swigen Nadolig’ unigryw a ganiateir, yna dylai pawb yn awr ddechrau cyfyngu ar ryngweithio â phobl eraill gymaint â phosibl wrth i gyfnod yr ŵyl agosáu.

“Mae hyn yn golygu aros allan o gartrefi pobl eraill, cyfyngu ar faint o weithiau a nifer y bobl rydych chi’n cwrdd â nhw, cynnal pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, gweithio gartref os gallwch chi, a hunanynysu os oes gennych chi symptomau coronafeirws, neu os gofynnir i chi wneud hynny gan swyddogion olrhain cysylltiadau.”

Ychwanegodd: “Mae cyfnod y Nadolig yn bwysig i bobl ledled Cymru sydd eisiau treulio amser gyda’u hanwyliaid yn ystod y gwyliau, yn enwedig ar ôl blwyddyn anodd iawn, ond byddem yn atgoffa pawb bod yn rhaid i bob un ohonom barhau i gymryd cyfrifoldeb personol i gyfyngu ar ledaeniad y firws ac i amddiffyn ein hanwyliaid, yn enwedig os ydyn nhw’n agored i niwed neu’n eithriadol o agored i niwed.  I lawer o bobl, bydd hyn yn golygu nad yw’n bosibl dathlu’r Nadolig yn y ffordd y byddech chi fel arfer yn ei wneud.”