Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymddiswyddiad Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, gan gyhuddo’r corff o “danseilio’r broses ddemocrataidd” drwy wrthod datblygu un cymhwyster Cymraeg.
Dywedodd y mudiad iaith hefyd fod Cymwysterau Cymru’n gwrthwynebu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyflwyno un continwwm o addysg Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith am i Lywodraeth Cymru roi “cyfarwyddyd clir” i Gymwysterau Cymru i ddatblygu un cymhwyster fydd yn rhoi “cyfle cyfartal i bob disgybl adael yr ysgol yn medru cyfathrebu a siarad Cymraeg yn hyderus a rhugl”.
Mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu ymgynghori yn y flwyddyn newydd ar y cymwysterau fydd yn cyd-fynd gyda’r cwricwlwm newydd.
“Rhwystro’r broses ddemocrataidd”
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mewn cyfarfod diweddar dywedodd uwch swyddogion Cymwysterau Cymru nad yw’n fwriad ganddynt i gynnwys yr opsiwn o gyflwyno un cymhwyster Cymraeg yn eu hymgynghoriad cyhoeddus yn y flwyddyn newydd ar y sail nad ydynt fel corff yn cytuno gyda’r nod.
“Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae’r Llywodraeth wedi pwysleisio eu hymrwymiad i gyflwyno un continwwm o ddysgu’r Gymraeg yng Nghymru, gan roi diwedd ar Gymraeg ail iaith,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Mae cael un continwwm yn golygu cael un cymhwyster: un cwricwlwm, un cymhwyster a chyfle cyfartal i bob disgybl yng Nghymru.
“Ond er gwaethaf bwriad clir y Llywodraeth i symud tuag at un continwwm, rydym yn deall na fydd Cymwysterau Cymru hyd yn oed yn cynnwys yr opsiwn o greu un cymhwyster Cymraeg yn eu hymgynghoriad nesaf.
“O ystyried pwysigrwydd creu un cymhwyster a’r consensws gwleidyddol, mae bwriad Cymwysterau Cymru – sy’n gorff anetholedig – i beidio hyd yn oed ymgynghori arno yn dangos eu bod yn tanseilio polisi cenedlaethol y llywodraeth etholedig a dyhead pobl Cymru.
“Mae bwriad haerllug a di-sail Cymwysterau Cymru i rwystro’r broses ddemocrataidd yn annerbyniol ac o ganlyniad dydyn ni ddim yn teimlo bod dewis ond galw am ymddiswyddiad eu Prif Weithredwr.”
“Rhaid symud i ffwrdd o’r anghyfiawnder presennol”
Ychwanegodd Mabli Siriol, Cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: “Rhaid symud i ffwrdd o’r anghyfiawnder presennol lle mae 80% o’n disgyblion yn gadael yr ysgol yn rhugl mewn un iaith yn unig, sef Saesneg.
“Yn hytrach na pharhau i laesu dwylo, dylai’r Llywodraeth ofyn i Brif Weithredwr presennol Cymwysterau Cymru gamu o’r neilltu a rhoi cyfarwyddyd clir i’r corff i fynd ati i ddatblygu un cymhwyster.
“Dyma’r unig ffordd y gallwn ni sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn medru cyfathrebu a siarad Cymraeg yn hyderus a rhugl.”
Ymayeb Cymwysterau Cymru
Wrth ymateb, dywedodd Cymwysterau Cymru na all neb amau “ymrwymiad Cymwysterau Cymru a’i Brif Weithredwr i ddatblygiad y Gymraeg yn y dyfodol” a’u bod yn gobeithio y bydd Cymdeithas yr Iaith “yn ymgysylltu’n adeiladol â ni ar gyfeiriad yr holl gymwysterau”.
“Rydym yn llwyr gefnogi creu un continwwm ar gyfer addysgu a dysgu’r Gymraeg i helpu pob dysgwr i ddatblygu fel defnyddwyr Cymraeg hyderus,” meddai Cymwysterau Cymru wrth golwg360 mewn datganiad.
“Bydd ein hymgynghoriad yn y flwyddyn newydd yn edrych ar ba gymwysterau sydd eu hangen i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd, sydd i’w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn 2022.
Bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer cymwysterau newydd i gefnogi un continwwm ar gyfer addysgu a dysgu’r Gymraeg, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn croesawu unrhyw gyfraniad i’r ddadl hon, a gobeithio y bydd Cymdeithas yr Iaith a rhanddeiliaid eraill yn ymgysylltu’n adeiladol â ni ar gyfeiriad yr holl gymwysterau ar gyfer dysgwyr Cymru yn y dyfodol.”