Mae cytundeb masnach ôl-Brexit rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd dal yn bosib, yn ôl prif negodwr Brwsel Michel Barnier.
Cafodd y trafodaethau eu hymestyn ddydd Sul ar ôl i Boris Johnson drafod â llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, er mwyn cytuno ar y broses er gwaetha gwahaniaethau mawr rhwng y ddwy ochr.
Bu Michel Barnier yn annerch diplomyddion y 27 aelod arall o’r UE gan amlinellu’r cynnydd sydd wedi bod cyn iddo ail-ddechrau trafod gyda phrif negodwr y DU, yr Arglwydd Frost.
Mae’n ymddangos mai hawliau pysgota yw un o’r prif feini tramgwydd o hyd ac mae Michel Barnier wedi cadarnhau bod “dau o’r amodau’n dal heb eu cytuno” ond bod cytundeb “dal yn bosib”.
Dywedodd bod y “dyddiau nesaf” yn bwysig er mwyn cael cytundeb mewn lle ar gyfer Ionawr 1.
Mae trefniadau masnach cyfredol y DU gyda’r UE yn dod i ben ar ddiwedd y mis, gan olygu bod yn rhaid i gytundeb newydd fod mewn lle erbyn Ionawr 1.
Os nad yw hynny’n digwydd bydd tariffau a chwotâu a rhagor yn dod i rym a biwrocratiaeth yn cynyddu, gan roi rhagor o bwysau ar economi sydd eisoes yn gwegian yn sgil y coronafeirws.