Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi galw ar bobl i “ystyried yn ofalus” yr hyn maen nhw’n dewis ei wneud dros gyfnod y Nadolig.

Dywedodd Vaughan Gething ar raglen Today na fyddai effaith mwy o achosion o’r coronafeirws a marwolaethau yn effeithio “dim ond un Nadolig.”

“Dydyn ni ddim yn ceisio tarfu ar drefniadau’r Nadolig,” meddai.

“(Ystyriwch) a ddylech chi fynd i weld nifer o wahanol bobol? A ddylech chi weld y nifer uchaf a ganiateir neu a ddylech chi feddwl am sut y gallwch gyfyngu ar eich cysylltiadau?

“Oherwydd nid un Nadolig yn unig yw hwn… oherwydd y mwyaf o gymysgu, y mwyaf fydd yn cael eu heintio, y mwyaf o bobl fydd angen gofal ysbyty, a’r mwya’ o bobl fydd ddim yn gadael y gofal hwnnw.”

Dywedodd Vaughan Gething y byddai nifer o “ymyriadau sylweddol” yn digwydd yng Nghymru i helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws dros gyfnod yr ŵyl.

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi “wynebu beirniadaeth gref am weithredu yn y diwydiant lletygarwch. Nawr mae pethau wedi newid ac mae pobol yn ystyried a oes angen i ni wneud mwy.”

Ychwanegodd y byddai “dysgu o bell” yn digwydd yng Nghymru o heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 14) ymlaen ac y byddai ysbytai yn cael eu cyfyngu i weithgarwch “hanfodol sy’n gysylltiedig â Covid” yn unig.

“Mae gennym daith hir o’n blaenau,” meddai.

“Bydd y pandemig yn dod i ben ond mater i bob un ohonom yw gwneud dewisiadau ynglŷn â sut rydyn ni’n cyrraedd yno.”