Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion i wrthdrawiad angheuol rhwng tri char ddydd Sadwrn, Rhagfyr 12.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A44 i’r gorllewin o Waltwn ym Mhowys tua 5.30yh ddydd Sadwrn.

Bu farw dyn 23 oed oedd yn gyrru Ford Focus lliw arian a fu mewn gwrthdrawiad a Mitsubishi Shogun coch a BMW llwyd.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw dystion neu wybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad i’r gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod DP-20201212-248.