Mae holl ysgolion uwchradd Cymru, a nifer o ysgolion cynradd wedi symud tuag at ddysgu plant ar-lein heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 14).

Ddydd Iau (Rhagfyr 10), cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai pob ysgol uwchradd a choleg addysg yn symud at ddosbarthiadau ar-lein.

Dywedodd y Gweinidog fod y penderfyniad yn rhan o “ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad y coronafeirws” ac yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn “dirywio”.

A ddydd Gwener (Rhagfyr 11) cyhoeddodd cynghorau megis Caerdydd, Ceredigion, Abertawe a Bro Morgannwg eu bod yn cau eu hysgolion cynradd yn gynnar.

Ond nid pawb oedd yn cytuno â’r penderfyniad i symud tuag at ddysgu ar-lein, gyda Chomisiynydd Plant Cymru o blaid cadw’r ysgolion ar agor.

“Ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig y dylid osgoi cau ysgolion yn genedlaethol ar bob cyfrif, a bod buddion cadw ysgolion ar agor yn trechu popeth arall, nid dyma’r penderfyniad cywir i blant a phobl ifanc Cymru,” meddai Sally Holland.

“Dw i ddim yn medru cefnogi’r penderfyniad ar hyn o bryd.”

Profion Torfol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal profion coronafeirws torfol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr.

Bydd y rhai sy’n cael profion negyddol yn mynd i’r ysgol neu i’r coleg yn ôl yr arfer.

“Yn dilyn trafodaethau gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gell Cyngor Technegol Plant ac Ysgolion, mae’n bleser gennym gadarnhau y byddwn yn cyflwyno rhaglen profion cyfresol mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn y flwyddyn newydd,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Kirsty Williams.