Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal profion coronafeirws torfol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr.

Fel rhan o’r drefn newydd, bydd gofyn i ddisgyblion a staff sy’n cael eu hadnabod fel rhai sydd wedi dod i gysylltiad â phobol sy’n profi’n bositif hunanynysu neu gael prawf ar ddechrau’r diwrnod ysgol drwy gydol y cyfnod hunanynysu.

Bydd y rhai sy’n cael profion negyddol yn mynd i’r ysgol neu i’r coleg yn ôl yr arfer.

Bydd ysgolion a cholegau yn derbyn cefnogaeth, cyfarpar a hyfforddiant er mwyn cynnal profion, a bydd profion wythnosol i bob aelod o staff mewn sefydliadau anghenion arbennig.

“Drwy gydol y pandemig hwn, mae wedi bod yn flaenoriaeth gennym i sicrhau bod dysgwyr yn cael cymaint o addysg â phosibl, a bod y sefyllfa’n amharu cyn lleied â phosibl ar yr addysg honno,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Bydd y cynlluniau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni’r flaenoriaeth honno.

“Rydym yn cydnabod nad yw wedi bod yn hawdd i ddisgyblion a staff sydd wedi gorfod hunanynysu o ganlyniad i gael eu nodi’n ‘gysylltiad agos’, ac rydym yn cydnabod fod hyn wedi cael effaith ar y dysgu wyneb yn wyneb.

“Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd bod y cyfnod y mae’n rhaid i berson hunanynysu wedi gostwng o 14 diwrnod i 10 diwrnod.

“Yn dilyn trafodaethau gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gell Cyngor Technegol Plant ac Ysgolion, mae’n bleser gennym gadarnhau y byddwn yn cyflwyno rhaglen profion cyfresol mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn y flwyddyn newydd.”

Y profion

Mae profion llif unffordd yn gallu dod o hyd i antigen feirysol COVID-19 ar sampl swab.

Dyfeisiadau llaw yw profion llif unffordd sy’n cael canlyniadau o fewn 20 i 30 munud, ac mae’n bosibl i bobol gynnal y profion hyn arnyn nhw eu hunain.

Bydd y profion yn cael eu cynnal bob yn dipyn mewn ysgolion yn ôl lefelau risg, gan ddechrau gydag ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach.

“Bydd y gwersi rydym wedi’u dysgu o ddefnyddio profion llif unffordd mewn cynlluniau peilot mewn sefydliadau addysg uwch ledled Cymru ac ysgolion uwchradd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn helpu i lywio sut y gallwn gyflwyno profion llif unffordd yn llwyddiannus mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn y dyfodol,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae’n hanfodol fod pawb yn deall na all profi ynddo’i hun gael gwared ar y risgiau sy’n gysylltiedig â chael a throsglwyddo Covid-19.

“Mae profion yn helpu i liniaru’r risgiau, ond mae angen gwneud hyn ochr yn ochr â mesurau atal heintiau eraill, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid dwylo priodol.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb yn y sector sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y mesurau hyn yn eu lle.”