Fe fydd pobol hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsryweddol yng Nghymru’n cael rhoi gwaed o’r flwyddyn nesaf, ar ôl i Lywodraeth Cymru wyrdroi gwaharddiad oedd wedi’i osod gan bwyllgor Prydeinig.

Daw’r cyhoeddiad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dilyn cytundeb rhwng pedair gwlad Prydain.

Cafodd y cyfyngiadau eu gosod gan Bwyllgor Cynghori’r Deyrnas Unedig ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau.

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gwneud trefniadau priodol ar gyfer codi’r gwaharddiad, gan newid nifer o’r cwestiynau mae’n rhaid i roddwyr gwaed eu hateb.

Yn hytrach, bydd asesiadau sy’n asesu’r rhoddwr fel unigolyn yn cael eu cynnal, waeth beth yw eu rhyw, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

‘Systemau cadarn, diogel a chynhwysol’

“Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael gwared ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobol LGBT+ wedi ei wynebu,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae llawer o bobol wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd y sefyllfa hon.

“Dw i’n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyflawni’r nod hwn sydd wedi bod yn uchelgais gennym ers amser hir.

“Mae ein harbenigwyr a’n systemau meddygol wedi gwella’n fawr a bellach gallan nhw ddarparu sicrwydd sy’n golygu y gallwn gael gwared ar yr hen rwystrau sydd wedi golygu nad oedd yn bosibl i rai pobol LGBT+ roi gwaed.

“Erbyn haf 2021, bydd y systemau newydd yn gwbl weithredol a bydd y rheini’n systemau cadarn, diogel a chynhwysol.”

‘Cyhoeddiad pwysig iawn’

Yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford, mae’r newid “yn gyhoeddiad pwysig iawn”.

“Dw i’n ei groesawu’n fawr,” meddai.

“Mae rhoi gwaed yn gallu newid bywydau pobol, ac mae’n iawn fod pawb sy’n gallu rhoi gwaed yn cael y cyfle i helpu eraill.

“Mae hwn yn ddiwrnod da i’r gymuned LGBT+ ac yn ddiwrnod da i’r gwasanaeth gwaed sy’n dibynnu ar ei roddwyr.”

Ymateb y Gwasanaeth Gwaed

Mae’r Gwasanaeth Gwaed hefyd wedi croesawu’r newid.

“Mae’r newidiadau hyn yn dilyn nifer o flynyddoedd o waith caled gan grŵp llywio FAIR (o blaid Asesu Risg Unigoledig), sef menter gydweithredol ar draws y Deyrnas Unedig gyfan rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol ac academyddion, ac y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi chwarae rôl bwysig ynddi,” meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru.

“Er nad gwasanaethau gwaed sy’n gyfrifol am bennu’r rheolau ynghylch pwy all a phwy na all roi gwaed, rydym wrth ein boddau bod gwaith y grŵp wedi arwain at ddatblygu cyfres o reoliadau newydd a fydd yn ein galluogi ni i groesawu mwy o roddwyr i’n clinigau.

“Mae gwaith i’w wneud o hyd i roi’r rheoliadau newydd hyn ar waith, ond rydym yn falch iawn fod y newidiadau hyn wedi cael eu cyhoeddi, ac rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu rhoddwyr newydd i’n clinigau yn 2021.”